Casnewydd 1-1 Mansfield

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Casnewydd 1-1 Mansfield

Cafodd Lee Minshull ei anfon o'r cae wrth i Gasnewydd sicrhau gem gyfartal yn erbyn Mansfield.

Peniad Chris Zebroski's roddodd Casnewydd ar y blaen ar ôl cornel Adam Chapman.

Ond daeth Mansfield yn gyfartal ar ôl yr egwyl diolch i Sam Clucas.

Cafodd Minshull ei anfon o'r cae am drosedd gyda'i benelin ar Martin Riley.

Yn fuan wedyn roedd Mansfield lawr i ddeg dyn ar ôl i Matt Rhead adael y cae - ei ail gerdyn melyn.