Nuneaton 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Billy BarrFfynhonnell y llun, lessopix
Disgrifiad o’r llun,
Billy Barr

Nuneaton 2-0 Wrecsam

Mae tymor Wrecsam yn mynd o ddrwg i waeth - ac maen nhw nawr pum safle o waelod y cynghrair.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Nuneaton yn symud i'r ail safle ac yn ddiguro'r tymor hwn.

Andy Brown a Louis Moult sgoriodd i'r tîm cartref.

Hwn oedd y drydedd gêm yn olynol i Wrecsam golli.

Sgoriodd Brown gyda 15 munud yn weddill.

Bu bron i Neil Ashton ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal ond tarodd ei beniad yn erbyn y postyn yn y munu olaf.

Daeth ail gol Nuneaton yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau.

Dyw Wrecsam heb ennill am chwe gem - eu rhediad salaf dan reolaeth Andy Morrell.

Ar ol y canlyniad cyfaddefodd dirprwy reolwr Wrecsam Billy Barr fod y tim dan bwysau mawr ond ei fod yn ffyddiog y byddant yn goroesi.