Cyngor yn trafod dyfodol ysgol uwchradd
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Sir Penfro drafod cynnig ddydd Llun i adolygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd yn ardal Tyddewi.
Pryder rhai yn lleol yw y bydd penderfyniad i gau yr ysgol leol, Ysgol Uwchradd Dewi Sant.
Pe bai'r cabinet yn cytuno â'r angen am adolygiad, fe fydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno ym mis Tachwedd.
Dywed Cyngor Penfro eu bod yn ceisio mynd i'r afael â'r nifer o leoedd gwag yn y sector addysg uwchradd.
Mae'r swyddogion wedi son fod yna nifer o opsiynau posib.
Mae rhain yn cynnwys creu ffederasiwn neu uno, cau'r ysgol neu dim newid o gwbl.
Dywed y cyngor mai'r flaenoriaeth wrth drafod yw codi safonau a sicrhau gwerth am arian.
Mae yna ddarogan y gallai'r ysgol uwchradd fod a 20% o lefydd gwag o fewn pum mlynedd.
Maen nhw hefyd yn darogan y bydd 35% o leoedd gwag yn Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun a 42% yn Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd erbyn 2019.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2013
- 27 Chwefror 2013
- 8 Mai 2011