Saethu Casnewydd: Arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Heddlu fforensig yn archwilio'r safle

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i achos saethu yng Nghasnewydd wedi arestio trydydd dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Cafodd dau ddyn eu hanafu ar ôl i wn peled gael ei saethu o un car gan achosi car arall gael gwrthdrawiad gerllaw tafarn Cross Hands ar Ffordd Cas-gwent ddydd Mawrth.

Cafodd dyn lleol 24 oed ei arestio ddydd Sul. Mae Heddlu Gwent yn parhau i holi dyn arall, 22 oed. Cafodd dyn arall, 24 oed, ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei holi.

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am y gwn peled.

Mae dau ddyn o Gaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau.

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am gerbyd 4x4 oedd yn cael ei yrru ar hyd Ffordd Cas-Gwent a Fordd Beechwood tua 11.30 pm nos Fawrth.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol