Bocs ffôn glas yn achosi problem i gynghorwyr Trefaldwyn

  • Cyhoeddwyd
Bocs ffon
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n boisb yn bydd yn rhaid peintio'r bocs unwaith eto

Bu'n rhaid i gyngor tref wneud ôl gais am ganiatâd cynllunio ar ôl i focs ffôn coch traddodiadol gael ei beintio'n las.

Mae cyngor tref Trefaldwyn yn defnyddio'r hen focs ffôn fel man dosbarthu gwybodaeth i dwristiaid.

Cafodd ei beintio'n las ac mae rheseli wedi eu gosod ar gyfer cadw taflenni gwybodaeth.

Ond doedd cynghorwyr ddim yn sylweddol fod angen caniatâd cynllunio er mwyn peintio'r bocs, sy'n adeilad rhestredig.

Yn ôl maer y dref Mike Mills mae'n bosib y bydd yn rhaid ailbeintio'r bocs yn goch.

Mae disgwyl i gyngor Powys wneud penderfyniad ynglŷn â'r cais cynllunio mewn tua chwe wythnos.

Cafodd y bocs ei werthu gan BT i'r cyngor lleol ychydig flynyddoedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,
Mae taflenni gwybodaeth ar gael i dwristiaid

"Fe wnaethom beintio'r bocs yn las er mwyn cyd-fynd a thaflen newyddion y dref.

"Roeddwn yn ymwybodol fod y bocs yn adeilad rhestredig ond ddim yn sylweddoli fod angen caniatâd cynllunio er mwyn ei beintio.

Ers 2002 pan roedd nifer o focsys ffon ar ei anterth, mae 33,000 o focsys - mwy nag un o bob tri - wedi diflannu.

Mae disgwyl i 1,000 o focsys arall diflannu cyn diwedd 2013. .

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol