Smith yn cefnogi safiad Miliband ar Unite
- Cyhoeddwyd

Mae llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith AS, wedi cefnogi safiad Ed Miliband i wrthod ag ymddiheuro i aelodau undeb Unite ar ôl i adroddiad ddweud nad oeddynt wedi ceisio gweithredu mewn modd annemocrataidd.
Roedd yr honiadau yn ymwneud â'r modd gafodd ymgeisydd ei ddewis ar gyfer sedd Falkirk yn yr Alban.
Bu ymchwiliad i'r modd gafodd aelodau newydd eu penodi i'r gangen leol.
Dywed adroddiad gan y Blaid Lafur nad oedd aelodau Unite wedi gwneud dim o le.
Ond fe wnaeth yr helynt ysgogi Mr Miliband, arweinydd Llafur, i gyhoeddi newidiadau yn y berthynas rhwng Llafur a'r undebau.
Byddai'r newidiadau yn golygu y byddai'n rhaid gofyn i aelodau undeb a oeddynt am weld eu taliadau i'r undebau yn cael eu defnyddio i gefnogi Llafur.
'Penderfyniad dewr'
Ar hyn o bryd mae hynny'n digwydd yn awtomatig.
Dywed Mr Miliband ei fod yn bwriadu parhau a'r newidiadau er gwaethaf canlyniad ymchwiliad Falkirk.
Dywedodd Mr Smith AS Pontypridd wrth raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales: "Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur benderyfniad dewr a chywir i ymchwilio i'r honiadau ac mae'r broses gywir wedi cael ei ddilyn."
Er gwaetha'r ffaith fod yr adroddiad wedi penderfynu nad oedd yna unrhyw ymddygiad annheg ychwanegodd: "Er hyn nid ydym wedi newid ein meddyliau a dyw Ed Miliband heb newid ei feddwl fod angen newid ein perthynas gyda'r undebau."
Mae etholaeth cangen Falkirk o'r blaid yn parhau dan fesurau arbennig.
Dywedodd Mr Smith ei fod yn cefnogi penderfyniad Llafur i beidio cyhoeddi ymddiheuriad i'r unigolion dan sylw.
Dywed adroddiad Llafur i'r honiadau yn Falkirk nad oedd Kate Murphy, yr ymgeisydd ar gyfer y sedd, na Stevie Deans, cyd aelod o undeb Unite, a chadeirydd y blaid Lafur lleol, wedi eu cael yn euog o unrhyw gamwedd.
Maent hefyd yn adfer yr hawl i fod yn aelodau o'r blaid.
Mae Ms Murphy wedi tynnu ei henw'n ôl o'r ras i fod yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd ei bod yn gwneud hynny er mwyn undod y blaid.
Mae llafur wedi gwrthod cyhoeddi holl gynnwys yr adroddiad.
Dywedodd Len McCluskey, Ysgirfennydd Cyffredinol Undeb Unite, ei fod yn falch fod yr adroddiad yn derbyn nad oedd Unite wedi gwneud dim byd o'i le yn ystod y broses o ddewis ymgeisydd.