Saethu Casnewydd: Dyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Heddlu fforensig yn archwilio'r safle

Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn saethu honedig.

Ymddangosodd Lewis Bridge, 22, gerbron ynadon Caerffili ddydd Llun wedi ei gyhuddo i geisio lladd tri pherson.

Dechreuodd ymchwiliad yr heddlu yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad ar Ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd ddydd Mawrth diwethaf.

Cafodd tri pherson eu cludo i'r ysbyty, ac fe ddywedodd plismyn bod rhywun wedi saethu at eu cerbyd.

Cafodd Mr Bridge ei arestio ddydd Gwener cyn cael ei gyhuddo. Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan yr ynadon ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ar Fedi 19.

Mae dyn arall 24 oed o Gasnewydd a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae dyn ddyn arall 24 a 22 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffur, hefyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 555.