Cymro yn torri record byd mewn ras 10 cilometr yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gymru wedi torri record y byd i ddynion dros 60 oed, mewn ras 10km yng Nghaerdydd.
Llwyddodd Martin Rees, 60 o Bort Talbot, i orffen y ras mewn 32 munud a 48 eiliad.
Mae nawr wedi torri 37 record dros gategorïau a phellteroedd gwahanol i gystadleuwyr dros 45 oed.
Dywedodd trefnwyr y ras ei fod yn "gamp ryfeddol" a bod Mr Rees yn "esiampl wych".
Roedd Mr Rees wedi yn rhedeg fel rhan o dîm Tata Steel, lle'r oedd wedi gweithio ers 33 mlynedd cyn ymddeol yn gynharach eleni.
Dywedodd ei fod yn anelu at dorri nifer o recordiau ar gyfer ei gategori oed, dynion rhwng 60 a 64.
"Roedd yr amodau tywydd yn dda ac roedd popeth yn teimlo yn iawn am y ras heddiw," meddai.
"Yn amlwg wnes i ddim mynd allan gyda'r grŵp cyntaf, ond es i hefo'r ail a llwyddo i symud drwy honno."
Talent gudd
Dechreuodd Mr Rees redeg pan oedd yn 37, ond erbyn hyn mae'n hyfforddi saith niwrnod allan o bob wyth.
"Mae gan bawb un dalent gudd nad ydyn nhw'n ymwybodol ohono."
Dywedodd bod yr her o osod record newydd yn y categori wedi rhoi hwb ychwanegol iddo.
Nesaf ar restr Mr Rees fydd record y ras hanner marathon yng Nghaerdydd ym mis Hydref.
Mae'n gobeithio gwella ei amser o 1 awr 11 munud a 32 eiliad a gafodd yng Nghaerfaddon fis Mawrth.
Dywedodd Roy Thomas, prif weithredwr Kidney Wales, sy'n trefnu'r ras: "Er bod canolbwynt 10k Caerdydd ar godi arian gymaint â llwyddiant athletig, roedd hi'n hyfryd gweld Martin yn torri record y byd.
"Mae'n gamp ryfeddol ac mae Martin yn esiampl wych y gallwn ni gyd ei edmygu, yn enwedig o ystyried ei fod ond wedi dechrau rhedeg yn ei 30au."
Straeon perthnasol
- 9 Medi 2013
- 3 Mehefin 2013