Dim Morglawdd Hafren am y tro, yn ôl Peter Hain

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o Forglawdd HafrenFfynhonnell y llun, Eye on Wales
Disgrifiad o’r llun,
Gallai morglawdd yn yr Hafren ddarparu 5% o anghenion trydan y DU, yn ôl cefnogwyr y cynllun

Mae cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, yn dweud nad yw'n credu y bydd Morglawdd Hafren yn cael ei adeiladu cyn yr etholiad cyffredinol nesa'.

Ond fe ddywedodd ei fod yn dal yn obeithiol y bydd y cynllun gwerth £25 biliwn yn gweld golau dydd yn y dyfodol.

Ychwanegodd bod Llywodraeth San Steffan yn gwrthod derbyn manteision y cynllun a allai, yn ôl cefnogwyr, gynhyrchu 5% o anghenion trydan Prydain.

Mae cwmni Hafren Power eisiau codi morglawdd 11 milltir o hyd rhwng Trwyn Larnog ger Penarth ym Mro Morgannwg a Brean yn ymyl Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Yn ôl Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan, doedd Hafren ddim wedi eu hargyhoeddi y byddai'r datblygiad yn fuddiol i'r economi nac i'r amgylchedd.

Yn eu hadroddiad, dywedodd y pwyllgor fod yna "ddiffyg gwybodaeth a diffyg tryloywder".

Ychwanegon nhw nad oedd y ddadl dros y morglawdd wedi ei phrofi ac nad oedd Hafren Power eto "wedi darparu tystiolaeth gadarn ac annibynnol o ddichonoldeb economaidd, amgylchedd a thechnolegol y cynllun".

Ar y pryd, dywedodd y cwmni fod barn yr ASau yn "rhwystredig" a bod gan y cwmni fwy o waith i wneud.

Rhybuddiwyd yr ASau hefyd am y posibilrwydd o golli swyddi mewn porthladdoedd gerllaw, ac fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd y cynllun yn debyg o gwrdd â thargedau ynni adnewyddol.

Yn gynharach eleni, dywedodd Mr Hain ei bod yn bryd bwrw 'mlaen â'r cynlluniau ar ôl eu hastudio cyhyd.

Ond wrth siarad ar BBC Radio Wales ddydd Llun, dywedodd: "Mae (Llywodraeth y DU) yn gwrthod dweud a ydyn nhw o blaid neu yn erbyn y cynllun.

"Yn ymarferol, mae'r cynllun wedi ei roi i'r naill ochr a chyn belled ag y mae'r Llywodraeth yma yn y cwestiwn, mae'r cyfan ar ben ond dyw hynny ddim yn wir ar gyfer y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol