Michael Garvey i arwain Cerddorfa Gymreig y BBC

  • Cyhoeddwyd
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig yn perfformio ar draws y bydFfynhonnell y llun, BBC grab from Chinese TV
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig yn perfformio ar draws y byd

Michael Garvey sydd wedi ei ddewis fel cyfarwyddwr newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Rhagfyr.

Ar hyn o bryd mae Garvey, fu'n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr a gorsaf radio Classic FM, yn brif weithredwr gyda'r Academi Cerddoriaeth Hynafol.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod gan Mr Garvey "record wych yn ei faes".

Yn ôl Mr Garvey, mae'r rôl y gall y gerddorfa chwarae yn cynrychioli Cymru ar draws y byd yn "hynod ddiddorol".

Hefyd gan y BBC