Dyn busnes yn amddiffyn cynlluniau maes awyr newydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyn sydd am weld maes awyr newydd yn ne ddwyrain Cymru wedi amddiffyn ei gynlluniau gan wadu eu bod yn rhy uchelgeisiol.
Pe bai'r maes awyr newydd gwerth £5 biliwn yn cael ei godi ger Casnewydd, byddai angen gwerthu meysydd awyr Caerdydd a Bryste.
Dywed perchnogion maes awyr Bryste fod y cynllun yn afrealistig.
Dadl John Borkowski, cyn bennaeth strategaeth British Airways, yw bod yna ormod o feysydd rhanbarthol bach ym Mhrydain a bod angen meysydd awyr mwy o faint.
Dros ddegawd yn ôl fe wnaeth llywodraeth San Steffan wrthod y syniad o faes awyr ger Môr Hafren.
Nawr mae'r cynlluniau diweddaraf wedi eu cyflwyno i grŵp newydd sy'n edrych ar ddyfodol hedfan ar ran Llywodraeth y DU.
Rheilffyrdd
Dywed y cynlluniau y dylid codi maes awyr newydd ar yr arfordir i'r de o hen safle gwaith dur Llanwern, a hynny erbyn tua 2029.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys llain lanio 4,000m, cysylltiadau i'r M4 a chysylltiadau i'r rhwydwaith rheilffordd.
Dywed y cynigion y byddai'r safle yn cyflogi 1,000 yn uniongyrchol a thua 10,000 o swyddi yn anuniongyrchol.
Byddai'r maes awyr a'r adnoddau i ddelio gyda hediadau dros yr Iwerydd, ac mae'n amcan y byddai nifer y teithwyr yn codi o 14 miliwn y flwyddyn ar y dechrau i tua 40 miliwn erbyn 2050.
Yn ôl y cynigion byddai'r mwyafrif o awyrennau yn gadael neu yn glanio o gyfeiriad Môr Hafren gan leihau lefelau sŵn a llygredd awyr.
Ond fe fyddai'r cynlluniau angen i berchnogion meysydd awyr Bryste a Chaerdydd gytuno i werthu eu safleoedd - gyda'u cwsmeriaid yn cael eu trosglwyddo i'r maes awyr newydd.
Heathrow
"Mae'r maes awyr rwyf yn son am godi yn rhywbeth gwahanol iawn i Gaerdydd a Bryste," meddai Mr Borkowski.
"Pe bai chi yn edrych ar Gaerdydd a Bryste mae'r adnoddau yn iawn ar gyfer maes awyr bach ond nid ydynt yn debyg i'r hyn sydd ar gael mewn meysydd awyr rhyngwladol."
Yn ôl Mr Borkowski mae posibilrwydd y gallai Heathrow gau yn y dyfodol - ac felly mae hi'n bwysig trafod y posibilrwydd o ddatblygu maes awyr mawr ar gyfer Cymru a de orllewin Lloegr.
"Pe na bai Heathrow yno yn y dyfodol, beth fyddai'n digwydd pe bai'r llywodraeth yn penderfynu datblygu Stansted neu aber Afon Tafwys.
'Rhy uchelgeisiol'
"Byddai'n rhaid i bobl o Gymru fynd ymhellach i'r dwyrain ar gyfer hediadau a gallai hynny olygu fod Cymru yn lle llai deniadol er mwyn denu buddsoddiad."
Ond mae perchnogion maes awyr Bryste - sy'n gwasanaethu chwe miliwn o deithwyr bob blwyddyn - wedi wfftio'r syniadau.
Dywedodd prif weithredwr y maes awyr Robert Sinclair: "Mae Comisiwn y Meysydd Awyr wedi derbyn llawer o gynlluniau o wahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.
"Mae'n bwysig fod y cynlluniau yn synhwyrol, nid yn rhy uchelgeisiol nac yn ddibynnol ar orfodi meysydd awyr llwyddiannus i gau."
Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar faes awyr Caerdydd.
Dywedodd prif weithredwr maes awyr Caerdydd Jon Horne ei fod yn canolbwyntio ar wella'r maes awyr presennol yn hytrach na meddwl am faes awyr posib ger Môr Hafren.
Straeon perthnasol
- 10 Awst 2013
- 10 Mehefin 2013
- 7 Gorffennaf 2013