Ysgol Gymraeg newydd yn agor yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Treganna
Disgrifiad o’r llun,
Mae agor yr ysgol newydd yn achos i ddathlu yn ôl y pennaeth

Mae plant Cymraeg yng Nghaerdydd wedi treulio'i diwrnod cyntaf mewn ysgol Gymraeg newydd yn y ddinas.

Cafodd safle newydd ar gyfer Ysgol Treganna ei sicrhau yn dilyn ymgyrch hir gan rieni oedd yn dadlau fod y trefniant blaenorol yn anfoddhaol.

Bydd 500 o blant yn derbyn eu haddysg yn yr ysgol newydd yn ystod ei blwyddyn gyntaf.

Dywedodd pennaeth y safle Rhys Harries bod achlysur agor yr ysgol newydd yn "hyfryd iawn".

Galw am addysg Gymraeg

Roedd Ysgol Treganna yn arfer rhannu safle ei hysgol gydag ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, Radnor Primary, yn Nhreganna.

Ond roedd y cynnydd mewn galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu bod angen ehangu Ysgol Treganna.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd ystyried llawer o opsiynau cyn penderfynu yn 2011 y byddai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar Ffordd Sanitorium yn Nhreganna.

Mae'r ysgol newydd, a gostiodd bron £10m i'w hadeiladu, yn cyfuno hen ysgol gynradd Treganna gydag ysgol gynradd Tan yr Eos.

'Diwrnod o ddathlu'

Wrth groesawu'r disgyblion i'r adeilad newydd, dywedodd y prifathro, Mr Harries: "Mae'n ddiwrnod enfawr o ddathlu a symud mewn i'n adeilad newydd sbon danlli. Arbennig a hyfryd, hyfryd iawn.

"Un o'r pethau gorfoleddus am addysg Gymraeg yw ei fod yn dod o rym rhieni ac o'r gymuned ac ydi mae'n ffrwyth protestio ar ran y gymuned, mae'n ffrwyth gwaith caled ar ran fy staff i a phawb fydd ynghlwm gyda'r ysgol.

"Mae'n ddiwrnod arbennig i bawb ac yn arbennig mewn ffurf ychydig bach yn wahanol i bawb. Mae'n rhaid dweud ei fod yn ddiwrnod hapus iawn i ni yma yn Nhreganna."

Roedd rhieni yn pryderu bod y safle flaenorol llawer rhy fach er mwyn dygymod â'r galw am addysg Gymraeg - rhywbeth fydd ddim yn broblem o hyn ymlaen yn ôl Mr Harries.

"Oes, mae digon o le!" meddai.

"Fyddwn ni ddim yn llawn am ychydig o flynyddoedd ond wedi dweud hynny mae'r ymateb yn y gymuned wedi bod yn anhygoel - doeddwn i ddim yn disgwyl byddai fy nosbarthiadau derbyn yn llawn ond yn wir mae'n llawn a dosbarthiadau meithrin hefyd.

"Mewn ychydig o flynyddoedd mi fyddwn ni'n orlawn yma. Yn y pen draw bydd yna bron 700 o blant yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol