Protest yn erbyn awyrennau Aberporth
- Cyhoeddwyd

Mae tua 100 o bobl wedi cymryd rhan mewn protest yn Aberporth yn erbyn y defnydd o awyrennau di-beilot ar y safle.
Dywedodd yr ymgyrchwyr heddwch, yn eu mysg aelodau o CND Cymru, Cymdeithas y Cymod ac Amnesty International, bod y dechnoleg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhyfela mewn gwledydd tramor.
Ond mae'r Weriniaeth Amddiffyn yn dweud mai ond yn Aberporth mae'r awyrennau penodol hyn yn cael ei defnyddio, a bod awyrennau di-beilot tebyg yn achub bywydau milwyr Prydeinig.
Cafodd y brotest ei chynnal ddiwrnod o flaen ffair arfau yn Llundain lle bydd y dechnoleg yn cael ei arddangos.
'Rhyfel yn anghywir'
Dywedodd Jane Harris o Gymdeithas y Cymod: "Mae Cymdeithas y Cymod ar sail egwyddor yn credu bod rhyfel a pharatoi at ryfel yn anghywir, a fan hyn mae gennym ni enghraifft o baratoadau at ryfel, hynny yw defnyddio 'arfau lladd rhwydd' lle mae pobl yn gallu lladd pobl sydd filltiroedd i ffwrdd ac weithiau'n colli targed ac yn y blaen.
"Beth ni'n credu yw mai awyrennau di-beilot syn cael eu hedfan yma.
"Ydyn nhw wedi gofyn i bobl leol? Rwy'n gwybod bod rhai yn anfodlon. Ond mae'n beth erchyll i feddwl fod hyn yn digwydd yn ein henw ni, bod pobl ddiniwed efallai'n cael eu lladd trwy brofi'r awyrennau di-beilot yma."
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwadu bod yr awyrennau sy'n cael eu profi yn Aberporth yn cael eu defnyddio mewn ffordd dreisgar.
'Achub bywydau'
Dywedodd llefarydd ar eu rhan y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae Watchkeeper, system beilot awyr o bell sydd heb ei arfogi, ond yn hedfan mewn man penodol ym Mharc Aberporth.
"Mae awyrennau tebyg fel y Reaper ond yn weithredol yn Afghanistan o dan awdurdod cyfreithlon Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
"Maen nhw nid yn unig yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi gweithredoedd milwrol ond hefyd wedi achub bywydau nifer o luoedd arfog y DU ac eraill drwy ddarparu gwybodaeth, gwyliadwriaeth a rhagchwilio."
Straeon perthnasol
- 21 Medi 2011
- 1 Gorffennaf 2011
- 3 Hydref 2010