Dwy eglwys i gau ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Eglwys y Santes FairFfynhonnell y llun, Meirion
Disgrifiad o’r llun,
Mae Eglwys y Santes Fair yn un o'r ddwy fydd yn cau Llun: Meirion

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gau dwy o'u heglwysi ym Mangor.

Y bwriad ydi i gynulleidfaoedd Eglwys Dewi Sant Glanadda ac Eglwys y Santes Fair, Hirael addoli yng nghadeirlan y ddinas.

Yn sgil hyn bydd newidiadau i wasanaethau Cymraeg yn y Gadeirlan.

Cafodd y newidiadau eu hargymell mewn adroddiad ac mae Esgob Bangor yn disgrifio'r weledigaeth fel un "eofn a chyffrous".

'Amser cyffrous'

Mae cyfanswm o ryw 165 o bobl yn addoli yn eglwysi'r ddinas pob dydd Sul a dywedodd y Gwir Barchedig Andrew John fod y nifer hwn yn cynrychioli gostyngiad o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd fod hyn, yn ogystal â'r angen i arbed arian, wedi ysgogi adolygiad o'r ffordd mae adeiladau eglwysig yn y ddinas yn cael eu defnyddio.

"Mae hwn yn amser cyffrous yn yr Eglwys ac yn ninas Bangor fel y daw cynulleidfaoedd at ei gilydd," meddai Esgob Bangor.

"Mae'r Gadeirlan wedi ei lleoli yn strategol wrth galon y ddinas. Bydd ar bobl ffyddlon Plwyf Bangor a'r Gadeirlan angen gweithio gyda'i gilydd, yn ogystal â gyda phobl a grwpiau ar ymylon bywyd yr eglwys fel y dechreuwn weithio tuag at y weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol, sydd yn eofn ac yn gyffrous."

Cyfanswm o ryw 50 o bobl sy'n mynychu gwasanaethau yn y ddwy eglwys fydd yn cau ar y Sul.

Disgrifiad,

Adroddiad Sion Tecwyn

Bydd dwy eglwys arall y ddinas, ym Maesgeirchen a Phenrhosgarnedd, yn parhau gyda bwriad i sefydlu cynulleidfa cyfrwng Cymraeg ym Mhenrhosgarnedd.

'Gwasanaethu Duw'

Does dim sicrwydd eto pryd yn union fydd yr eglwysi'n cau, ac mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â be fydd yn digwydd i'r adeiladau wedyn.

Wrth siarad am yr adroddiad wnaeth argymell y newidiadau, dywedodd yr awdur yr Hybarch Paul Davies: "Mae'r adroddiad hwn yn dod â llawer o linynnau at ei gilydd sydd wedi eu huno mewn amcan cyffredin, sef un o wasanaethu Duw a'n cymuned.

"Mae ar yr eglwys angen ail-ddychmygu ei swyddogaeth a sicrhau ei bod yn darparu'r adnoddau angenrheidiol i gyfarfod a nodau newydd ac uchelgeisiol. Yr adroddiad hwn yw'r cam cyntaf tuag at gyflawni hyn."

Hwn oedd y trydydd adroddiad o'i fath i gael ei ysgrifennu ers 1960, gyda phob un ohonyn nhw yn dweud bod angen cau'r ddwy eglwys dan sylw.

Bydd proses gyfreithlon yn cael ei chynnal ac mae disgwyl iddi ddechrau yn fuan.

Mae Cadeirlannau eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau plwyf yn Nhyddewi, Casnewydd a Llandaf.