Un yn marw mewn damwain ger Rhaglan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod rhywun wedi marw yn dilyn trawiad rhwng dau gerbyd yn Rhaglan, ger Casnewydd.
Bu trawiad rhwng fan a cherbyd nwyddau trwm ar yr A449 tua'r de ychydig wedi 2pm brynhawn Llun.
Roedd dau yn teithio yn y fan a cafodd un ei ddarganfod yn farw yn lleoliad y ddamwain.
Mae'r llall wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn ambiwlans awyr.
Mae gyrrwr y lorri wedi dioddef man anafiadau ac wedi ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn awyddus i siarad gyda unrhywun sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ac y gallai aelodau o'r cyhoedd gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol