Gobaith i ffatri Remploy Porth
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd cytundeb yn cael ei sicrhau'r wythnos hon fydd yn arwain at berchnogion newydd yn prynu ffatri Remploy ym Mhorth, ger Pontypridd.
Y gred yw y bydd gweithwyr wnaeth benderfynu peidio derbyn arian diswyddo yn ymuno a'r fenter newydd.
Yn y cyfamser mae ymgynghoriad ar ddiswyddo yn yr unig ffatri arall sy'n dal i weithredu ym Maglan, ger Port Talbot.
Mae 117 o gyn weithwyr Remploy wedi llwyddo i gael swyddi newydd drwy gynllun grant cymorth Llywodraeth Cymru.
Cau saith ffatri
Cafodd saith ffatri Remploy eu cau yng Nghymru'r flwyddyn ddiwethaf yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod yn fusnesau anghynaladwy.
Collodd 280 eu swyddi yn sgil y penderfyniad.
Mae ffawd y ddwy ffatri sydd yn dal i weithredu yn edrych yn wahanol iawn.
Mae'r ffatri Remploy ym Mhorth yn rhan o fusnes E-cycle, y cwmni sydd yn y broses o gael ei werthu i gwmni newydd, Cycle Ltd.
Cwmni sydd wedi cael ei sefydlu gan reolwyr Remploy yw Cycle Ltd.
Ffatri ddodrefn
Ond mae'n edrych yn debyg y bydd y ffatri ym Maglan sydd yn gwneud dodrefn yn cau, er nad oes dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer hyn.
Ddydd Mawrth mae cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd rhwng cyn weithwyr Remploy a gwahanol undebau er mwyn ystyried pa gefnogaeth ychwanegol all gael ei roi i bobl anabl sydd wedi colli ei swyddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.4m ar gyfer sefydliadau sy'n cynnig swyddi i gyn weithwyr Remploy am gyfnod o bedair blynedd - byddai cyn weithwyr sy'n sefydlu busnesau eu hunain hefyd yn gymwys am yr arian hwn.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Jeff Cuthbert: "Erbyn hyn rydym wedi llwyddo i helpu 117 o weithwyr Remploy i gael hyd i swyddi newydd ac mae'r nifer hwnnw'n cynyddu.
"Mae hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu grwpiau sy'n agored i niwed - wnawn ni ddim troi ein cefnau ar weithwyr."
Straeon perthnasol
- 6 Mai 2013
- 29 Ebrill 2013
- 25 Ebrill 2013