Cam-drin: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin rhywiol hanesyddol 15 o bobl ifanc mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth gan farnwr.
Mae John Allen, 72 oed o Ipswich, Suffolk, wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau yn erbyn 14 bachgen ac un ferch rhwng 1968 a 1989.
Cafodd Mr Allen, cyn bennaeth Cymuned Bryn Alun oedd yn rhedeg cartrefi gofal yn y gogledd, fechnïaeth amodol yn Llys y Goron Caernarfon.
Mae ei dîm cyfreithiol wedi awgrymu ei fod yn bwriadu gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cafodd Mr Allen, oedd ddim yn y llys ar gyfer y gwrandawiad, ei arestio a'i gyhuddo cyn ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar Awst 1.
Mae'n wynebu 32 o gyhuddiadau, gan gynnwys 22 o ymosod yn anweddus, yn ymwneud â phlant rhwng 7 a 15 oed.
Cafodd ei arestio am y tro cyntaf ym mis Ebrill gan swyddogion o Ymgyrch Pallial - ymchwiliad yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol - ar amheuaeth o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi plant yn y gogledd.
Mae disgwyl gwrandawiad pellach ym mis Tachwedd.
Roedd Cymuned Bryn Alun yn gwmni cyfyngedig oedd yn rhedeg 11 o gartrefi gofal preswyl i blant yng ngogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Sir Amwythig.
Straeon perthnasol
- 1 Awst 2013
- 31 Gorffennaf 2013
- 23 Ebrill 2013