Teyrnged i fab fu farw yn Southerndown
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi rhoi teyrnged i'w mab "ardderchog" wnaeth farw ar ôl disgyn o glogwyn gyda'i gariad yn ne Cymru.
Bu farw Rhys Clark, 27, o Fae Caerdydd wedi iddo ddisgyn o glogwyni yn Southerndown ger Pen-y-bont ar Ogwr ar Awst 31.
Cafodd ei gariad ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol lle mae hi'n gwella.
Dywedodd mam Rhys, Janet: "Roedd gen i'r mab mwyaf ardderchog, dydw i ddim yn gwybod sut alla' i wneud hebddo."
Roedd Rhys Clark yn cerdded hefo'i gariad, Ania, a'u ci ar glogwyni Southerndown, pan aeth y ci dros yr ymyl.
Glaniodd 10 troedfedd islaw, a cheisiodd Rhys ac Ania ddringo i gyrraedd yr anifail.
Wrth geisio ei gyrraedd, disgynnodd y ddau 150 troedfedd i'r traeth caregog islaw.
Bu farw Rhys yn y fan a'r lle, ond cafodd Ania ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w choes a'i phelfis.
"Roedd Rhys wedi bod eisiau mabwysiadu ci bach a rhoi cartref da iddo erioed," meddai Janet, 64.
"Roedd o ac Ania yn caru'r ci bach ac yn mynd ag o am dro ar hyd y clogwyni ar benwythnosau.
"Buasai fy mab yn dal i fod yma heblaw am y ci ond gallaf i ddim meddwl am hynny.
"Roedd gen i'r mab mwyaf ardderchog, dydw i ddim yn gwybod sut alla' i wneud hebddo. Rydw i'n gobeithio nad oedd wedi dioddef o gwbl."
Roedd Rhys yn gweithio fel peiriannydd yn Swydd Lincoln wedi iddo raddio gyda gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd.
Roedd Rhys wedi cwrdd ag Ania yn y Brifysgol, lle mae hi'n astudio gradd PhD.
Mae Ania yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Yn y cyfamser mae cwest wedi ei agor i farwolaeth Rhys.
Straeon perthnasol
- 2 Medi 2013