AS yn wynebu rhagor o honiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Nigel Evans
Disgrifiad o’r llun,
Mae Nigel Evans wedi gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le

Mae Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin Nigel Evans wedi cael ei arestio unwaith eto ar amheuaeth o ymosod yn anweddus ac o aflonyddu yn rhywiol ar ddau o bobl.

Roedd Heddlu Sir Gaerhirfryn wedi arestio'r Aelod Seneddol dros Ribble Valley yn gynharach ar amheuaeth o dreisio, o ymosod yn rhywiol a thri achos o ymosod yn anweddus.

Honnir bod y troseddau newydd wedi eu cyflawni yn Llundain rhwng 2002 a 2009.

Mae'r Ceidwadwr 55 oed, sy'n wreiddiol o Abertawe, yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.

Mae'n debyg fod yr honiadau gwreiddiol, a gafodd eu gwneud ym mis Mai eleni, yn gysylltiedig â digwyddiadau honedig yn Pendleton, Sir Gaerhirfryn, rhwng mis Gorffennaf 2009 a mis Mawrth 2013.

Cyflwynwyd tri honiad arall o ymosod yn anweddus y mis canlynol a honnir i'r troseddau hynny gael eu cyflawni yn Blackpool a Llundain rhwng 2003 a 2011.

Mae'r honiadau i gyd yn ymwneud â dynion yn eu 20au.

Holi yn ystod y dydd

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn: "Mae e [Mr Evans] wedi cael ei arestio nawr ar amheuaeth o ymosod yn anweddus ac o gyffwrdd dau o bobl eraill yn rhywiol.

"Bydd yn cael ei holi am yr honiadau diweddara' yma mewn gorsaf heddlu yn Sir Gaerhirfryn yn ystod y dydd.

"Honnir i'r troseddau yma gael eu cyflawni yn Llundain rhwng 2002 a 2009."

Cyrhaeddodd Mr Evans orsaf heddlu Preston ychydig cyn 9:00 y bore ddydd Mawrth, yng nghwmni ei gyfreithiwr.

Ym mis Mai, fe wadodd Mr Evans yr honiadau gwreiddiol yn ei erbyn, gan ddweud eu bod yn "gwbl ffug", a'u bod wedi'u gwneud gan ddau o bobl yr oedd ef yn "ystyried yn ffrindiau".

Cafodd ei ethol yn Ddirprwy Lefarydd yn 2010, ond mae wedi rhoi'r gorau i'r dyletswyddau hynny ers iddo gael ei arestio'r tro cynta', er ei fod yn parhau gyda'i waith fel AS.