Sêl Brenhinol a dyddiad ar gyfer deddf organau
- Cyhoeddwyd

Mae'r ddeddf fydd yn newid y drefn o roi organau yng Nghymru wedi cael ei phasio'n swyddogol ar ôl cael sêl bendith y Frenhines.
Cyhoeddwyd y bydd y drefn newydd yn dod i rym ar Ragfyr 1, 2015.
Mae'n golygu bod y llywodraeth yn tybio bod caniatâd ar gyfer rhoi organau yn cael ei roi os nad yw unigolyn yn nodi ei wrthwynebiad i hynny.
Cymru yw'r wlad gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu polisi o'r fath.
Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd y ddeddf yn achub bywydau drwy gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w defnyddio o 25%.
Cafodd y ddeddf ei chymeradwyo gan y cynulliad ym mis Gorffennaf eleni a rhoddwyd y Sêl Brenhinol arni mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
'Achub bywydau'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
"Gellir dadlau mai Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yw'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth i gael ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ers iddo ennill pwerau llawn i lunio cyfraith yn 2011.
"Bydd llawer o bobl yn aros am flynyddoedd am drawsblaniad ond yn anffodus, mae llawer yn marw tra bônt ar y rhestr aros. Mae prinder organau'n parhau i achosi marwolaethau a dioddef y byddai modd eu hosgoi fel arall.
"Nid yn unig y bydd y ddeddf hon yn helpu i leihau'r rhestr aros ond bydd hefyd yn helpu i achub bywydau trwy leihau nifer y bobl sy'n marw yn ddiangen wrth aros am drawsblaniad organ."
Ymgyrch wybodaeth
Yn ôl, Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Cymru:
"Mae hwn yn ddiwrnod o bwys mawr yn hanes Llywodraeth Cymru ac rwyf yn falch mai fi oedd y Gweinidog Iechyd pan ddaeth y darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth i fod.
"Er ein bod yn dathlu bod y Ddeddf yn cychwyn heddiw, mae'n bwysig cofio na ddaw'r system newydd i rym tan 1 Rhagfyr 2015, yn dilyn ymgyrch wybodaeth ddwy flynedd.
"Yn ystod yr ymgyrch ddwy flynedd hon, caiff pobl ddigon o wybodaeth am sut y mae'r system newydd yn gweithio a beth yw eu dewisiadau. Ond hyd yn oed heddiw gall pobl helpu eraill trwy sicrhau bod y bobl sydd agosaf atynt yn gwybod beth yw eu dymuniadau ynghylch rhoi organau a hoffwn annog pawb i gael y sgwrs honno."
Dywedodd Roy J Thomas, o Sefydliad Aren Cymru, ei bod "wedi bod yn daith hir a bod hon yn gyfraith dda iawn."
"Mae'n rhoi gobaith i bawb sy'n disgwyl am drawsblaniad, nid yn unig y rhai sydd ar y rhestr ond rhai sy'n poeni y bydd eu horganau'n methu ac a fydd angen trawsblaniad o bosib."
Roedd nifer wedi gwrthwynebu'r cynlluniau, gan ddadlau mai'r teulu ac nid y llywodraeth ddylai benderfynu a ddylid cymryd organau gan rywun sydd wedi marw.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario bron i £8m dros y 10 mlynedd nesa' yn codi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a'r hyn sydd angen i bobl wneud os nad ydynt am roi eu horganau.
Straeon perthnasol
- 15 Awst 2013
- 11 Gorffennaf 2013
- 2 Gorffennaf 2013