Adeilad newydd i ysgol gynradd?

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Lôn Las, Abertawe
Disgrifiad o’r llun,
Dathlodd Ysgol Gymraeg Lôn Las ei phen-blwydd yn 60 yn 2009

Mae Cyngor Abertawe wedi dadorchuddio cynlluniau i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Lôn Las.

Bwriad y cyngor yw cyfnewid adeiladau presennol Lôn Las gydag ysgol newydd werth miliynau o bunnoedd.

Mae'r Cyngor nawr yn holi barn rhieni, plant a'r gymuned cyn datblygu'r cynlluniau ymhellach.

Byddai Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynllun ar y cyd.

Mae'n rhan o adolygiad Cyngor Abertawe o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal. Agorwyd ysgol newydd yno - Ysgol Gymraeg y Cwm - ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

'Hen ac anaddas'

Dywedodd y Cynghorydd Will Evans, aelod o gabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am addysg a sgiliau:

"Mae creu ysgol newydd yn Lôn Las yn flaenoriaeth uchel i'r Cyngor. Mae'r adeiladau presennol yn hen ac yn anaddas i ystod oedran y disgyblion sy'n cael eu haddysgu yno.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adeiladau presennol "yn anaddas" medd y cyngor

"O ganlyniad maen nhw hefyd yn ddrud iawn i'w cynnal a'u cadw.

"Byddai buddsoddiad sylweddol mewn ysgol newydd arfaethedig yn darparu adnoddau dysgu o'r safon angenrheidiol i gwrdd â disgwyliadau disgyblion a staff yn yr 21ain ganrif.

"Drwy gael ei godi ar y safle presennol, byddai'r adeilad newydd yn dal i fedru defnyddio'r adnoddau chwaraeon gwych a'r warchodfa natur sydd y tu cefn i'r ysgol."

Bydd yr ymateb i ymgynghoriad y Cyngor yn cael ei ddefnyddio wrth lunio'r cynlluniau cyn y bydd caniatâd cynllunio'n cael ei gyflwyno yn Lôn Las.

Fe fydd Cyngor Abertawe yn dosbarthu taflenni yr wythnos hon gyda manylion y cynllun gwreiddiol er mwyn cael ymateb, ac maen nhw hefyd yn bwriadu cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn y gymuned er mwyn cyflwyno'r cynllun i bobl leol.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad yw Medi 30, 2013.