Carchar am geisio twyllo'r llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Peter HulbertFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Peter Hulbert ei garcharu am 3 blynedd a 10 mis

Mae dyn 54 oed o Sheffield wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a deg mis o garchar am geisio twyllo Llywodraeth Cymru, yn ôl Heddlu'r De.

Fe wnaeth Peter Hulbert ddefnyddio dogfennau ffug mewn ymgais i ddarbwyllo Llywodraeth Cymru fod ganddo gefnogaeth ariannol o'r Unol Daleithiau ar gyfer cynllun rasio hofrenfadau (hovercraft).

Byddai'r twyll wedi golygu colled i'r llywodraeth o £625,000.

Yn ffodus ni chafodd staff Llywodraeth Cymru eu twyllo ac yn hytrach fe wnaethon nhw gwyno i Heddlu De Cymru.

Cafodd Hulbert ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Wedi'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Runnalls o uned droseddau ariannol Heddlu'r De:

"Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru rydym wedi sicrhau'r euogfarn yma. Fe wnaeth Mr Hulbert ymdrech oedd wedi ei chynllunio'n dda iawn - ond a oedd yn aflwyddiannus - i ddwyn swm sylweddol o arian grant.

"Mae'n esiampl wych o sut y gall Llywodraeth Cymru weithio i warchod arian cyhoeddus drwy sicrhau bod y rhai sy'n gwneud ceisiadau am grantiau yn cael eu gwirio'n drylwyr."