Ysgol Gynradd Pentre i gau

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymradd Pentre
Disgrifiad o’r llun,
Aeth Mr Andrews i drafferthion wedi i lun ohono yn ymgyrchu'n erbyn cau'r ysgol ymddangos ar y we

Bydd yr ysgol oedd yn gyfrifol am benderfyniad Leighton Andrews i ymddiswyddo fel gweinidog addysg yn cau wedi'r cwbl, yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Fe wnaeth Mr Andrews ymgyrchu yn erbyn cau Ysgol Gynradd Pentre, sydd o fewn ei etholaeth, er mai polisi'r llywodraeth oedd cau ysgolion oedd â gormod o leoedd gwag ynddynt.

Cafodd ei orfodi i ymddiswyddo yn fuan wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi torri'r côd ymddygiad y mae disgwyl i weinidogion ei ddilyn.

Bydd disgyblion yr ysgol yn symud i Ysgol Gynradd Treorci o fis Medi 2014 ymlaen.

Fel rhan o'r cynllun bydd estyniad yn cael ei godi ar yr ysgol honno er mwyn ymdopi gyda'r nifer uwch o ddisgyblion fydd yn cael eu dysgu yno.

Mae lle yn yr ysgol i 317 o ddisgyblion ar hyn o bryd, a bydd hynny'n cael ei gynyddu i 420 erbyn dechrau tymor ysgol 2014.