Cosbrestwyr yn wynebu colli gwaith

  • Cyhoeddwyd
Adeiladu
Disgrifiad o’r llun,
Darganfyddodd ymchwiliad BBC fod 111 o weithwyr Cymreig ar gosbrestr y Consulting Association

Mae cwmnïoedd sy'n rhoi unigolion ar restrau er mwyn eu hatal rhag cael gwaith yn wynebu cael eu gwahardd rhag ceisio am gontractau yn y sector gyhoeddus.

Cosbrestru yw'r enw sy'n cael ei roi ar yr arferiad ac mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol o gosbi sefydliadau sy'n parhau i wneud.

Mae'r llywodraeth yn amau bod cwmnïau adeiladu sy'n gweithredu yng Nghymru'n parhau i wneud hyn, er ei fod yn anghyfreithlon.

Mae undebau gweithwyr wedi croesawu'r newyddion.

Anghyfreithlon

Er bod cosbrestru unigolion ar sail eu gwaith fel undebwyr eisoes yn torri'r gyfraith fel arfer oherwydd ei fod yn arferiad sy'n gwahaniaethu ac yn torri'r Deddf Diogelu Data, mae llawer yn credu fod yr arferiad yn parhau i fod yn gyffredin.

Cafodd enwau dros 3,000 o unigolion, y rhan fwyaf ohonynt yn adeiladwyr, eu darganfod ar gosbrestr oedd yn cael ei chadw gan gwmni o'r enw'r Consulting Association, nôl yn 2009.

Wedi hyn, cafodd y cwmni ei orfodi i gau.

Mae undebau'n credu bod rhai oedd ar y rhestr wedi cael eu diystyru o swyddi am godi pryderon iechyd a diogelwch neu am fod yn weithredol o fewn undeb.

Pryder undebau yw bod cwmnïau'n parhau i gadw'r rhestrau hyn.

'Cwbl annerbyniol'

Bwriad Llywodraeth Cymru yw gwahardd cosbrestrwyr rhag gwneud cynnig am gontractau sector cyhoeddus.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt: "Mae defnyddio cosbrestrau yn gwbl annerbyniol ac rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r unigolion a'u teuluoedd sydd wedi dioddef anghyfiawnder sylweddol yn sgil yr arfer hwn gan gontractwyr.

"Mae caffael yn rhan bwysig o fesurau polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru. Nid yw'n dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau i fusnesau sy'n derbyn gwariant caffael cyhoeddus ddefnyddio cofrestrau.

"Rwy'n benderfynol o weithredu ar hyn yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraethau eraill y DU yn cymryd camau tebyg os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny."

Mae Ms Hutt wedi cyhoeddi canllawiau i holl gyrff cyhoeddus Cymru sy'n esbonio'r camau ariannol all gael eu cymryd er mwyn atal cosbrestru.

Pwrpas y canllawiau yw dweud wrth gyrff cyhoeddus Cymru o dan ba amgylchiadau gall cosbrestrwyr gael eu heithrio o geisio am waith.

'Cyhoeddiad gwych'

Mae undeb y GMB eisoes yn y broses o weithredu'n gyfreithlon ar ran grŵp o'i haelodau ac maen nhw'n bwriadu cynnal diwrnod ym mis Tachwedd er mwyn codi sylw at yr achos.

Dywedodd eu swyddog cenedlaethol Justin Bowden: "Mae'r cyhoeddiad gwych yma gan Lywodraeth Cymru'n newid popeth.

"Mae'r neges i gwmnïau sy'n cosbrestru dinasyddion Cymru'n gwbl glir: os ydych chi eisiau contractau cyhoeddus yng Nghymru, rhaid i chi gyfaddef, glanhau eich busnes a thalu.

"Mae'r rhwyd yn cael ei gau ar y cosbrestrwyr."

Gan fod £4.3 biliwn yn cael ei wario yn y sector gyhoeddus yng Nghymru pob blwyddyn, bydd cynlluniau'r llywodraeth yn rhoi cymhelliant ariannol real i gwmnïau atal yr arferiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol