Nigel Evans: Datganiad personol
- Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol Nigel Evans wedi datgan ei fwriad i "amddiffyn ei hun i'r carn" wedi iddo gael ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn dynion, gan gynnwys un o dreisio.
Mae Mr Evans, sy'n wreiddiol o Abertawe ond sy'n cynrychioli etholaeth Ribble Valley yn Nhŷ'r Cyffredin, wedi ymddiswyddo fel Dirprwy Lefarydd y Tŷ wedi iddo gael ei gyhuddo'n ffurfiol nos Fawrth.
Fe wnaeth ddatganiad personol yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher gan ddweud ei fod wedi cael ei adael "mewn gwlad o limbo" gan yr honiadau yn ei erbyn.
Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys dau o ymosod yn anweddus, pump o ymosod yn rhywiol ac un o dreisio.
Bydd yn ymddangos gerbron llys ar Fedi 18.
Cadarnhaodd Mr Evans ei fod yn ymddiswyddo o'i swydd fel Dirprwy Lefarydd, ond dywedodd y byddai'n parhau a'i waith fel Aelod Seneddol Ribble Valley.
Cyhuddiadau
Mae'r Ceidwadwr 55 oed yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.
Mae'r ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus yn dyddio nôl i gyfnod rhwng Ionawr 1 2002 ac Ionawr 1 2004; y pum cyhuddiad o ymosod yn rhywiol rhwng Ionawr 1 2009 ac Ebrill 1 2012 ac mae'r cyhuddiad o drais yn ymwneud a chyfnod rhwng Mawrth 29 ac Ebrill 1 y flwyddyn hon.
Mae saith o ddioddefwyr honedig - bob un yn ddynion.
Dywedodd Mr Evans: "Roedd yn un o ddyddiau hapusaf fy mywyd pan gefais fy ethol yn ddirprwy lefarydd yn 2010 - roedd yn gadarnhad gan fy nghydweithwyr o fy ngallu i wneud fy ngwaith ac rwy'n ddiolchgar am hynny.
"Ers yr honiadau yma nid wyf wedi bod yn gallu cyflawni fy nyletswyddau yn y gadair, ac mae hynny wedi fy ngadael mewn gwlad o limbo.
"Rwy'n ddiolchgar i'r ddau Ddirprwy Lefarydd arall - Lindsay Hoyle a Dawn Primarolo - am y gefnogaeth ddi-ildio a gefais dros y tair blynedd ond yn enwedig ers Mai 4 am lenwi'r bwlch a adawyd gennyf yn y gadair.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dangos trugaredd ystyriol tuag ataf ers Mai 4, fy nheulu yn enwedig, fy nghymdeithas a hyd yn oed rhai newyddiadurwyr sydd wedi dangos y fath galon na welais o'r blaen."
Gwadu
Cafodd Mr Evans ei arestio am y trydydd tro wrth iddo ateb ei amodau mechnïaeth fore dydd Mawrth.
Bu'n cael ei holi gan dditectifs drwy gydol y dydd ac fe gyhoeddodd cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus Keir Starmer ei fod yn wynebu cyhuddiadau am tua 9:30pm.
Roedd Mr Evans wedi cyrraedd gorsaf heddlu Preston yn gynharach yn y dydd gan ddweud "diolch am ddod" wrth aelodau o'r wasg oedd wedi ymgynnull y tu allan.
Pan gafodd Mr Evans ei arestio am y tro cyntaf ym mis Mai fe ddywedodd fod yr honiadau yn ei erbyn yn "gwbl anwir".
Dywedodd ym mis Mehefin wedi iddo gael ei arestio am yr eildro ei fod am barhau i "wadu pob un o'r honiadau".
Roedd yn un o dri dirprwy lefarydd i gael ei ddewis yn dilyn pleidlais gudd o ASau yn 2010. Rhwng 1999 a 2001 roedd yn is-gadeirydd ar ei blaid, cyn iddo wedyn dreulio dwy flynedd fel ysgrifennydd gwladol Cymreig cysgodol.
Mae'n parhau i wadu pob cyhuddiad.
Straeon perthnasol
- 10 Medi 2013