Hepatitis C: Galw cyn gleifion
- Cyhoeddwyd

Mae dau fwrdd iechyd yng Nghymru wedi cysylltu gyda 5,000 o gyn gleifion, sydd i gyd yn ferched, wedi iddi ddod i'r amlwg bod cyn aelod o staff wedi ei heintio gyda firws Hepatitis C.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi cysylltu gyda phobl a gafodd driniaeth yn yr uned famolaeth a gynecoleg mewn dau ysbyty.
Yn y gogledd, nifer fechan o gleifion a gafodd driniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn y 1970au sydd wedi derbyn galwadau fel mesur rhagofalus.
Yn y de-ddwyrain, cleifion yn yr un unedau yn Ysbyty'r Glowyr yng Nghaerffili sydd wedi cael eu galw.
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bod y feirws wedi cael ei drosglwyddo i ddau glaf rhwng Mai 1984 a Gorffennaf 2003.
Prawf gwaed
Mae Hepatitis C yn firws all arwain at lid yr iau. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes unrhyw symptomau ac felly nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli ei fod arnynt.
Os nad yw'n cael ei drin, gall yr haint achosi clefyd iau cronig, ac, yn fwy anghyffredin, canser yr iau.
Mae'r firws Hepatitis C yn cael ei drosglwyddo trwy gyswllt gwaed-i-waed, ac yn anghyffredin iawn, trwy gyfathrach rywiol. Y llwybr mwyaf cyffredin o drosglwyddiad yn y DU yw'r defnydd o gyffuriau mewnwythiennol. Ni all gael ei drosglwyddo trwy gyswllt cymdeithasol, cusanu na rhannu bwyd a diod.
Bydd cleifion a gafodd eu trin gan yr aelod staff dan sylw yn cael cynnig prawf gwaed am Hepatitis C fel mesur rhagofalus.
Bu'r un aelod o staff yn gweithio am gyfnod byr yn Wrecsam yn 1978. Roedd y feirws Hepatitis C arnyn nhw bryd hynny hefyd.
Bu'r aelod o staff hefyd yn gweithio am gyfnod yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg ym Mhontypridd yn 1984.
'Risg yn isel'
Dywedodd Mr Andrew Jones, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Rwy'n gwybod y bydd y newyddion yma'n achosi pryder i gleifion a welwyd yn Wrecsam yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag hoffwn bwysleisio fod y risg o drosglwyddo'r firws yn isel.
"Er hyn, mae'n bwysig ein bod yn cysylltu â chleifion a gafodd eu trin gan yr unigolyn a chynnig cefnogaeth a'r cyfle iddynt gael prawf gwaed.
"Bydd hyn yn ein galluogi i roi sicrwydd fod popeth yn iawn, neu os ydym yn adnabod person sy'n cario'r firws, ein bod yn sicrhau eu bod yn cael y cyngor a'r driniaeth briodol.
"Oherwydd ein bod yn olrhain hen gofnodion ac yn eu gwirio'n ofalus iawn yn erbyn gwybodaeth gyfredol i sicrhau ein bod â'r wybodaeth gywir a manylion cysylltu personol i'r bobl, mae'r gwaith yn cymryd cryn amser.
"Byddwn yn parhau i ysgrifennu at bobl dros yr ychydig wythnosau nesaf.
"Dim ond at y bobl sydd wedi cael gweithdrefn rydym yn ysgrifennu atynt, lle mae risg ddamcaniaethol gall yr haint fod wedi'i basio ymlaen, ac os oedd hyn, neu o bosibl, wedi cael ei weithredu gan y gweithiwr gofal iechyd a effeithiwyd.
"Dim ond pobl sy'n derbyn llythyr fydd angen ffonio'r llinell gymorth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012