Shifft olaf i'r Tywysog William
- Cyhoeddwyd

Mae Dug Caergrawnt wedi cwblhau ei shifft waith olaf fel peilot gyda'r Awyrlu yn Y Fali.
Dechreuodd hyfforddi yn Y Fali yn Ionawr 2010 a gwnaeth ei shifft olaf yno ddydd Mawrth.
Wrth ymweld â Sioe Amaethyddol Ynys Môn fis diwethaf, dywedodd Y Tywysog William y byddai ei waith ar yr ynys yn dod i ben o fewn wythnosau, a diolchodd i bobl yr ynys am y croeso a gafodd yno yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn Y Fali.
"Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran Catherine wrth ddweud nad wyf erioed wedi nabod lle mor brydferth a chroesawgar ag Ynys Môn. Fe fyddwn yn teimlo colled fawr pan ddaw fy ngwaith yma i ben ddiwedd y mis wrth i ni symud i rywle arall," meddai yn y Sioe.
Mae adroddiadau y gallai'r tywysog ddychwelyd i'w hen gatrawd yn Llundian - cafalri y Blues and Royals.
Straeon perthnasol
- 10 Tachwedd 2011
- 7 Mehefin 2012
- 14 Awst 2013