Cynhadledd i hybu dwyieithrwydd
- Cyhoeddwyd

Mae cynhadledd i drafod manteision addysg ddwyieithog yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin.
Fel rhan o'r digwyddiadau, sy'n para tridiau ac yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bydd arbenigwyr yn y maes yn trafod eu hymchwil gydag ymwelwyr o Ganada, Gwlad Belg a Gwlad y Basg.
Mae'r academyddion hyn yn dweud bod eu hymchwil yn profi fod manteision "deallusol a gwybyddol" gan blant sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng mwy nag un iaith.
Mae trefnydd y digwyddiad Dr Hywel Glyn Lewis yn disgrifio'r gynhadledd fel "ymateb cadarnhaol" i Gyfrifiad 2011.
'Tystiolaeth'
Roedd y cyfrifiad hwnnw yn dangos fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 i 562,000 rhwng 2001 a 2011.
Mae Dr Lewis, sy'n gyfarwyddwr ar gwrs MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn y brifysgol, yn credu'n gryf fod cynnig tystiolaeth o fudd siarad dwy iaith yn hollbwysig os am newid y duedd o lai o bobl yn siarad yr iaith.
Dywedodd: "Prif amcan y gynhadledd yw tynnu sylw at dystiolaeth yr ymchwil ryngwladol a gynhaliwyd mewn gwledydd megis Canada sydd yn cadarnhau manteision deallusol a gwybyddol addysg ddwyieithog i blant.
"Ar sail y dystiolaeth bellgyrhaeddol honno, felly, bwriedir i'r gynhadledd yrru'r agenda ieithyddol yng Nghymru a chefnogi strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg y llywodraeth.
"Y casgliad yw y bydd cael gwared ar unrhyw amheuon a phryderon sydd yn parhau ymhlith rieni ynghylch dewis addysg ddwyieithog gyflawn i'w plant yn fodd i gynyddu'r niferoedd sydd yn rhan o'r gyfundrefn honno ac, o ganlyniad, nifer siaradwyr y dyfodol sydd yn greiddiol i adfywiad yr iaith.
"Trwy wahodd arbenigwyr rhyngwladol i gyflwyno'r dystiolaeth bellgyrhaeddol ddiweddaraf felly mae cynhadledd yn ymateb cadarnhaol i ystadegau Cyfrifiad 2011."
Ymysg yr ysgolheigion fydd yno i drafod eu gwaith mae Yr Athro Jim Cummins, o Brifysgol Toronto, Canada, Yr Athro Piet Van De Craen, Prifysgol Vrije, Brwsel a'r Cyngor Ewopreaidd, Dr Julia Barnes, Prifysgol Mondragon, Gwlad y Basg.
Hefyd yn siarad yn y gynhadledd fydd Meirion Prys Jones, cyn-bennaeth Bwrdd yr Iaith sydd bellach yn brif weithredwr ar Network to Promote Linguistic Diversity, rhwydwaith Ewropeaidd sy'n ymwneud ag amrywiaeth ieithyddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2013
- Cyhoeddwyd5 Awst 2013
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012