Medal rygbi yn dychwelyd i Gymru

Mae medal aur sy'n dyddio o'r tro cyntaf i dîm rygbi Cymru ennill y Goron Driphlyg yn 1893 wedi dychwelyd i Gymru, wedi blynyddoedd mewn drôr yn Awstralia.
Cafodd y fedal ei roi i chwaraewr Caerdydd a Chymru, Frank Hill, sydd wedi cael ei alw yn '"Sam Warburton ei oes".
Roedd elusen y Welsh Sports Hall of Fame wedi gobeithio dod a'r fedal yn ôl i Gymru, a nawr maent wedi codi'r £3,000 i'w brynu gan aelod o deulu Frank Hill.
Mae cadeirydd yr elusen, Rhodri Morgan wedi croesawu'r fedal yn ôl i Gaerdydd, lle bydd yn cael ei harddangos.
Chwaraeodd Frank Hill 15 o weithiau dros Gymru, gan gynnwys chwe gêm fel capten y tîm.
Enillodd y fedal wedi i Gymru guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn 1893.
Cafodd y fedal ei phasio ymlaen i'w fab bedydd wedi ei farwolaeth yn 1927, yna i genhedlaeth nesaf y teulu, Mark Lanning, a symudodd i fyw yn Awstralia.
Trysor
Cafodd y fedal ei chadw mewn drôr am 30 mlynedd, ond yn ddiweddar roedd Mr Lanning yn awyddus i'r trysor fynd i brynwr Cymreig.
Roedd y Welsh Sports Hall of Fame wedi rhoi hanner yr arian i brynu'r fedal, ac roedd cwmni ocsiynwyr Drewatts & Bloomsbury wedi helpu i gael y gweddill, wedi iddyn nhw glywed y stori.
Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Richard Madley ei fod wedi adnabod y fedal yn syth.
"Rydw i wedi bod yn delio gyda 'memorabilia' rygbi ers 25 mlynedd ac rydw i ond wedi gweld un neu ddau debyg, ond dim mor hen â hon," meddai.
Mae'r unig fedal arall o'r un cyfnod wedi ei benthyg i Undeb Rygbi Cymru gan gasglwr.
Roedd Frank Hill yn gyfreithiwr yng Nghaerdydd. Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf mewn gem gyfartal yn erbyn yr Alban yn 1885, a chwaraeodd dros 150 o weithiau i Gaerdydd.
"Roedd Frank Hill yn un o sêr cyntaf rygbi Cymru - yn debyg i Sam Warburton ei oes," meddai ymddiriedolwr yr Hall of Fame, Rob Cole.
"Roedd yn chwarae yn rheolaidd dros Gaerdydd pan yn 17 oed, a chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf dri diwrnod cyn ei ben blwydd yn 19."