Bwrw 'mlaen gyda chynllun coedwig
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo sylfaen gwyddonol cynllun dadleuol i dorri coed ar Ynys Môn.
Wedi'r gymeradwyaeth bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu coed o "ran fechan" o goedwig Niwbwrch.
Yn gynharach yn y mis fe drefnwyd cyfarfod cyhoeddus gan bobl leol oedd yn gwrthwynebu'r cynllun, gan honni fod Llywodraeth Cymru wedi torri addewidion, ac y byddai'r cynllun yn peryglu bywyd gwyllt gan gynnwys gwiwerod coch yr ardal.
Ddydd Mercher y daeth y gymeradwyaeth i'r sylfaen wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi datganiad ddydd Iau y byddan nhw nawr yn bwrw mlaen i dynnu coed o'r ardal.
'Eisoes yn farw'
Dywed y datganiad: "Mae llawer o'r coed sydd i'w cwympo eisoes yn farw neu'n grebachlyd, a heb fod o ddim, neu fawr ddim, budd i fywyd gwyllt lleol, gan gynnwys gwiwerod cochion y goedwig.
"Bydd tynnu'r coed o'r rhan fechan hon o'r goedwig o gymorth i rai o'r twyni sy'n agos ar lan y môr ddechrau ail-symud eto, a darparu gwell amgylchiadau ar gyfer adferiad bywyd gwyllt.
"Mor bwysig yw'r ardal ar gyfer bywyd gwyllt, fe'i dynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi buddsoddi tua £1 miliwn i wella adnoddau'r ardal yn ddiweddar, hefyd yn pwysleisio y bydd y safle'n parhau i ddarparu ardal adloniant gwych ar gyfer pobl leol, ac y bydd o fudd i economi dwristaidd y fro."
'Ymgynghoriadau maith'
Yn y cyfarfod cyhoeddus ar Fedi 5 roedd ymgyrchwyr yn anghytuno ac yn dweud eu bod yn ystyried cymryd eu her i Lys Cyfiawnder Ewrop.
Ond mynnodd Tim Jones o Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi newid llawer ar ein cynlluniau blaenorol, wedi ymgynghoriadau maith â phobl leol ac arbenigwyr.
"Bydd helpu'r dirwedd i edrych yn fwy naturiol o gymorth i fywyd gwyllt, a hefyd yn gwella prydferthwch man y mae pobl leol, a'r rhagor na 170,000 o ymwelwyr y mae'n eu denu'n flynyddol, yn ei werthfawrogi'n fawr.
"Gall pobl leol barhau i fwynhau mynd am dro yn y goedwig, a dichon i dwristiaeth roi hwb i'r economi leol wrth i fywyd gwyllt y goedwig a'r twyni gael ei wella."
Straeon perthnasol
- 5 Medi 2013
- 16 Hydref 2012