Anrhydeddu'r goreuon o'r campau
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi Gwobrau Chwaraeon Cymru, sef gwobrau newydd i ddathlu'r chwaraeon gorau ar lawr gwlad ac elît yng Nghymru.
Mae'r ddau sefydliad wedi dod at ei gilydd i gynnal y digwyddiad newydd ddydd Llun, Rhagfyr 9, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, a fydd yn cyfuno arbenigedd y ddau sefydliad i greu digwyddiad dathlu chwaraeon blynyddol mwyaf yn y wlad.
Mae'r gwobrau'n cynnwys amrywiaeth o gategorïau ble gall y cyhoedd enwebu eu hoff arwyr chwaraeon elît a chymunedol, a bydd panel arbenigol o feirniaid yn penderfynu pwy fydd yr enillwyr terfynol.
"Bydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales a Hyfforddwr y Flwyddyn ymysg y gwobrau mawreddog a fydd yn rhan o Wobrau Chwaraeon Cymru.
Y cyhoedd fydd yn dal i benderfynu pwy fydd yn derbyn gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales, drwy bleidleisio dros hyd at ddeg o bobl ar y rhestr fer a fydd wedi'u dewis gan banel chwaraeon.
'Cefnogaeth i dalent newydd'
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:
"Sefydlwyd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales yn 1954, a bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach mae'n dal i fod yn ddigwyddiad mawreddog a chyffrous iawn.
"Wrth ddod ynghyd â Chwaraeon Cymru am y tro cyntaf, byddwn yn gallu adeiladu ar lwyddiant y gorffennol wrth i ni weithio mewn partneriaeth â'r prif gorff chwaraeon yng Nghymru.
"Mae'n gyfle i bwysleisio ein cefnogaeth i dalent chwaraeon newydd, yn ogystal â chydnabod llwyddiant ysbrydoledig ein sêr ar feysydd chwarae ledled y byd."
'Dathliad o chwaraeon'
Ychwanegodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:
"Drwy ddod at ein gilydd fel hyn rydyn ni'n teimlo y gallwn ddatblygu seremoni wobrwyo a fydd yn dod yn ddyddiad pwysig ar galendr chwaraeon Cymru."
"Mae'n hanfodol ein bod yn hyrwyddo chwaraeon a'r unigolion hynny sy'n cefnogi chwaraeon yng Nghymru. Pa well ffordd o wneud hynny na thrwy weithio mewn partneriaeth ac estyn allan i'r cyhoedd a'r diwydiant chwaraeon mewn ffordd newydd?
"Bydd yn ddathliad o chwaraeon ar lawr gwlad a chwaraeon o safon fyd-eang gyda'r gwirfoddolwr cymunedol gorau yn rhannu'r un llwyfan â sêr chwaraeon gorau'r flwyddyn flaenorol. Byddwn ni'n gallu adrodd stori chwaraeon gyflawn y flwyddyn yng Nghymru.
"Ond yn ogystal â datblygu digwyddiad gwych, mae'n bwysig ein bod yn gallu cydweithio â sefydliadau fel BBC Cymru, pan mae ein gwaith ni yn hyrwyddo chwaraeon yn ffitio cystal."
Categorïau
Dyma gategorïau Gwobrau Chwaraeon Cymru 2013:
- Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn (y cyhoedd yn enwebu gyda'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd)
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn (y cyhoedd yn enwebu gyda'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd)
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (y cyhoedd yn enwebu gyda'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd)
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (y cyhoedd yn enwebu gyda'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd)
- Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn (y cyhoedd yn enwebu gyda'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd)
- Hyfforddwr y Flwyddyn (y cyhoedd yn enwebu gyda'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd)
- Tîm y Flwyddyn (penderfyniad y panel)
- Cyflawniad Oes (penderfyniad y panel)
- Athletwr neu Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales (penderfyniad y panel)
- Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales (y cyhoedd yn pleidleisio ar restr fer y panel)
Bydd Gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru Wales (y cyhoedd yn enwebu a'r panel yn penderfynu pwy yw'r enillydd) hefyd yn cael ei chydnabod yn ystod y digwyddiad.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y categorïau, sut mae enwebu a phleidleisio ar gael ar wefan arbennig i Wobrau Chwaraeon Cymru.
Straeon perthnasol
- 17 Hydref 2013
- 10 Rhagfyr 2012