Y Tywysog William i adael y fyddin
- Cyhoeddwyd

Mae'r Tywysog William yn gadael y fyddin wedi saith mlynedd yn ôl Palas Kensington.
Gweithiodd y Tywysog am y tro olaf fel peilot hofrennydd yr Awyrlu Brenhinol (RAF) ddydd Mawrth.
Bydd nawr yn canolbwyntio ar waith brenhinol a'i waith dros elusennau gyda Duges Caergrawnt.
Mae disgwyl i'r cwpl, a'u mab y Tywysog George, symud o'u cartref ar Ynys Môn i Balas Kensington yn yr wythnosau nesaf.
Mewn datganiad dywedodd y Palas y byddai'r Dug yn parhau i gefnogi gwaith y Frenhines a'r Teulu Brenhinol mewn gweithgareddau swyddogol gyda Kate.
Cadwraeth
"Bydd yn gweithio ym maes cadwraeth, yn enwedig gyda rhywogaethau prin," meddai llefarydd o'r Palas.
"Bydd y Dug yn parhau i weithio gyda'i elusennau ar faterion sy'n ymwneud a phlant a phobl ifanc, a milwyr a chyn-filwyr yn y lluoedd arfog."
Dywed y Palas bod William yn ystyried nifer o opsiynau at y dyfodol, a bod hwn yn gyfnod "trawsnewidiol" i'r Tywysog.
Dechreuodd y Tywysog hyfforddi yn Y Fali ar Ynys Môn dair blynedd yn ôl, ac mae William wedi siarad am y croeso cynnes y mae wedi cael yno.
Yn siarad yn Sioe Amaethyddol Môn ym mis Awst, dywedodd: "Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran Catherine wrth ddweud nad wyf erioed wedi nabod lle mor brydferth a chroesawgar ag Ynys Môn.
"Fe fyddwn yn teimlo colled fawr pan ddaw fy ngwaith yma i ben ddiwedd y mis wrth i ni symud i rywle arall."
Straeon perthnasol
- 11 Medi 2013