Salmonela: Cyswllt gyda chig ham
- Cyhoeddwyd

Gall achosion o Salmonela ddechreuodd yng ngogledd orllewin Cymru ym mis Awst wedi dod o gynnyrch cig ham.
Mae 51 o bobl, rhwng saith mis ac 87 mlwydd oed wedi eu heffeithio gan yr haint erbyn hyn.
Mae 21 o'r rhain yng Nghymru, a'r gweddill yn Lloegr.
Mae ymchwiliad wedi dangos bod cysylltiad posib rhwng yr achosion newydd a chynnyrch cig ham gafodd ei gyflenwi i gigyddion annibynnol.
Roedd yr achosion yng Nghymru wedi digwydd yng Nghonwy a Gwynedd, tra bod achosion newydd yn Lloegr yn ardaloedd y Thames, Leeds, Cumbria a Stafford.
Mae naw o bobl wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty oherwydd y salwch.
Straen anarferol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyd weithio gyda Iechyd Cyhoeddus Lloegr a'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ymchwilio'r achosion.
Dywedodd Dr Judy Hart o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r straen o Salmonela rydym yn ymchwilio yn un anarferol felly mae'n annhebygol bod yr achosion yng Nghymru a Lloegr yn gyd-ddigwyddiadau.
"Mae profion wedi cael eu cynnal ar gynnyrch cig ham gafodd ei gyflenwi i nifer o gigyddion.
"Ni chafodd Salmonela ei ddarganfod, ond roedd rhai problemau hylendid sydd wedi arwain at dynnu rhai pecynnau o ham o siopau."
Dywedodd Dr Hart bod yr ymchwiliad yn parhau.
Fel arfer mae pobl yn dal Salmonela o fwyta bwydydd fel cig, wyau a llaeth sydd wedi eu heintio a heb eu coginio yn llwyr.
Straeon perthnasol
- 22 Awst 2013