Post Brenhinol: Gwerthu 'o fewn wythnosau'
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau ei fod am werthu'r Post Brenhinol o fewn yr wythnosau nesaf.
Gall preifateiddio'r gwasanaeth godi hyd at dri biliwn o bunnoedd i'r llywodraeth, sydd wedi dweud fod gwneud hynny yn gam angenrheidiol.
Ond mae 'na wrthwynebiad cryf wedi dod gan y blaid Lafur a'r undebau.
Bydd 150,000 o weithwyr y Post Brenhinol yn cael cyfranddaliadau am ddim, gyda'r cyfle i wneud cais i brynu mwy.
Mae un aelod seneddol o Gymru yn deud bod angen moderneiddio, ond mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn teimlo bydd preifateiddio yn niweidio'r gwasanaeth.
Hanfodol
Mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod yn hyblyg ynghylch faint o gyfranddaliadau bydd yn cael eu gwerthu.
Dywedodd ei fod yn bwriadu gwerthu o leiaf 41%, a rhoi 10% i staff, gan olygu na fydd y llywodraeth yn berchen ar gyfran fwyaf y cwmni.
Mewn datganiad dywedodd y Post Brenhinol bod y mater o breifateiddio yn un i'r llywodraeth, ond eu bod am barhau i weithio yn agos gyda'r Swyddfa Bost.
Cafodd y Swyddfa Bost ei wneud yn annibynnol o'r Post Brenhinol yn Ebrill 2012 - y swyddfa sy'n gyfrifol am wasanaethau dros y cownter a bancio a'r Post Brenhinol sy'n gyfrifol am ddosbarthu post a pharseli.
Maedatganiad y Post Brenhinol yn dweud: "Rydym yng nghanol y rhaglen fuddsoddi fwyaf yn ein hanes gan foderneiddio miloedd o swyddfeydd."
"Mae bodlondeb cwsmeriaid dros 95% ac rydym yn credu bod achos i fod yn optimistaidd am ddyfodol y busnes."
Ar raglen Taro'r Post, dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb bod newidiadau yn hanfodol i foderneiddio'r gwasanaeth.
"Yr hyn sy'n bwysig i ddeall yw bod 'na angen cynyddol i'r gwasanaeth gael ei foderneiddio, a'r hyn sy'n codi cwestiwn sylfaenol i ni ydy'r ffaith bod 'na angen gwario sylweddol ar y broses foderneiddio.
"Mae'r cwestiwn yn codi a ddylid cyllido hynny drwy arian y trethdalwr neu a ddylid galluogi'r Swyddfa Bost i gystadlu hefo'r cwmnïau preifat sydd yn trio dwyn eu marchnad nhw?
"Y teimlad sydd gen i yw bod hi'n allweddol ein bod ni yn sicrhau bod y Post Brenhinol yn cael cyfle i fuddsoddi drwy ddenu arian yn fasnachol."
Streic
Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn bwriadu cynnal pleidlais o fewn ei haelodau ar gynnal streic mewn gwrthwynebiad i'r penderfyniad.
Mae Tomos Hughes o'r Undeb yn dweud bod newidiadau eisoes wedi bod yn digwydd ers tro yn y Post Brenhinol.
"Rydym ni fel gweithwyr yn y Swyddfa Bost wedi newid sut yr ydym yn gweithio, popeth rydym yn ei wneud, er mwyn gwneud mwy o elw i'r Post Brenhinol," meddai.
"I ddweud bod angen preifateiddio i wneud hynny, mae hynny'n lol.
"Mae'r Post Brenhinol yn gweithio fel mae e, mae'n gwneud elw ac mae'n rhoi gwasanaeth bendigedig."
Dywedodd Guto Bebb y byddai cystadleuaeth gynyddol gan gwmnïau eraill yn y dyfodol fyddai'n effeithio ar yr elw yma.
Dywedodd bod angen buddsoddiad yn eu "systemau ac offer" i geisio atal hynny, a sicrhau swyddi yn y dyfodol.
Dadl Mr Bebb oedd bod sefyllfa'r Post Brenhinol ar hyn o bryd yn adlewyrchiad o gefnogaeth "drwm" gan y llywodraeth, a bod angen i'r Post Brenhinol sicrhau'r arian yma o ffynonellau preifat.
Ond mae Mr Hughes yn honni bod y Post Brenhinol yn cynnig gwasanaeth gwahanol i gwmnïau eraill, gan ei fod yn gwasanaethu ardaloedd anghysbell yn ddyddiol.
"Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn a dyna'r rheswm bod y Post Brenhinol wedi gweithio am gymaint o amser fel yr ydym ni."
Bydd canlyniad pleidlais Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn cael ei gyhoeddi ar Hydref 3.
Straeon perthnasol
- 10 Gorffennaf 2013
- 19 Gorffennaf 2011