Gallai lladd fod wedi ei 'atal'

  • Cyhoeddwyd
Karen Welsh
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Karen Welsh gyfarfod Mr Constatine yn yr ysbyty

Gallai marwolaeth dynes gafodd ei lladd gan ddyn oedd yn dioddef o sgitsoffrenia paranoid fod wedi ei atal, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Cafodd Karen Welsh oedd yn nyrs 52-mlwydd-oed ei thagu yn ei chartref yng Nghaerdydd gan John Michael Constantine, 33.

Roedd hi wedi ei gyfarfod yn yr ysbyty tra'n cael triniaeth am iselder ac wedi rhoi cymorth iddo ar adeg pan oedd yn ddigartref.

Mae'r adroddiad yn dweud bod diffyg cyfathrebu wedi bod rhwng swyddogion iechyd, yr heddlu a swyddogion prawf.

Dynladdiad

Cafodd Mr Constantine ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ym mis Mawrth 2011 ar ôl cyfaddef dynladdiad ar sail nad oedd yn llawn gyfrifol.

Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'r digwyddiad ym Mawrth 2010 yn nodi bod nifer o gyfloedd wedi cael eu colli.

Ymysg y rhai sy'n cael eu beirniadu mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, a hynny am i asesiad risg gwael gael ei gynnal o'r risg roedd Mr Constantine yn ei beri i eraill.

Mae'r heddlu a swyddogion prawf hefyd yn cael ei beirniadu am beidio â chyflwyno gwarant i arestio Mr Constantine, er gwaetha'r ffaith eu bod wedi cael cyfle i wneud hynny ar nifer o achlysuron.

Fe wnaeth Mr Constantine dagu Ms Welsh yn ei chartref yn Thornhill wedi iddi gynnig lle iddo aros. Roedden nhw wedi dod yn ffrindiau tra oedd ill dau yn derbyn triniaeth yn Ysbyty'r Eglwys Newydd, Caerdydd.

'Atal o bosib'

Mae ef yn cael ei enwi fel "Mr J" yn yr adroddiad, sydd yn dweud fod cyfloedd i gysylltu gydag ef wedi cael ei methu.

Dywed yr adroddiad: "Pe byddai ymgais mwy pendant a llai tameidiog wedi'i wneud gan wasanaethau Iechyd a Statudol i gael gwell dealltwriaeth o'r risgiau yr oedd Mr J yn eu peri, rydym o'r farn y gellid bod wedi atal y lladdiad a gyflawnwyd o bosibl."

Disgrifiad o’r llun,
Mae merch Ms Welsh wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd gwersi yn cael eu dysgu

Yn ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd merch Ms Welsh, Joanne ei bod yn gobeithio y byddai gwersi'n cael eu dysgu o farwolaeth ei mam.

"Mae'n peri tristwch ofnadwy clywed casgliad yr adroddiad y byddai fy mam yn fyw ac iach heddiw petai dim diagnosis anghywir, diffyg mewn cyfathrebu rhwng yr asiantau perthnasol a diffyg ymwybyddiaeth o iechyd meddwl," meddai.

"Yn anffodus roedd y methiannau yma'n golygu bod dyn peryglus a sâl iawn wedi cael ei adael i lawr a gadawyd iddo gyflawni trosedd mor ddinistriol.

"Rwyf wir yn gobeithio y bydd yr holl asiantaethau oedd yn ymwneud a hyn yn cymryd yr argymelliadau o ddifrif ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn atal mwy o fywydau diniwed rhag cael eu colli."

Derbyn canfyddiadau

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod yn derbyn canfyddiadau'r adroddiad yn llawn, ac y bydden nhw'n mynd i'r afael ac unrhyw faterion sy'n parhau i fod angen eu newid ar frys.

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud dau argymhelliad ar gyfer yr heddlu - i adolygu polisïau a phrosesau ar gyfer rheoli gwarantau arestio.

"Mae'r adolygiadau hyn eisoes wedi digwydd ac rydym yn hyderus bod ein systemau ddigon cadarn i sicrhau ein bod yn delio yn effeithiol gydag unigolion mae'r heddlu yn chwilio amdanynt."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol