Cymdeithas: Angen darlledwr annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y BBC i sefydlu darparwr aml-blatfform Cymraeg annibynnol.
Ddydd Mercher, cyhoeddodd y gymdeithas fanylion eu cyfraniad i Sgwrs Radio Cymru - ymgynghoriad a roddodd gyfle i bobl fynegi eu barn am Radio Cymru a'i dyfodol.
Mewn datganiad dywedodd y gymdeithas y dylai'r BBC gyfrannu'r arian sydd angen er mwyn creu gwasanaeth darlledu newydd yn Gymraeg.
Dywedodd BBC Cymru eu bod yn gwerthfawrogi pob cyfraniad i Sgwrs Radio Cymru.
'Gwasanaethau eilradd'
Mae cadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith, Greg Bevan, yn honni yn ei ddatganiad bod y BBC wedi "trin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i'r rhai Saesneg am ddegawdau."
Ychwanegodd Mr Bevan: "Mae'r BBC yn sefydliadol wrth-Gymraeg. Ar ôl dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg yng Nghymru, maent yn torri cyllid ac oriau yr unig orsaf radio Cymraeg yn y byd.
"Os yw'r Gymraeg i fyw rhaid i ni fynnu ein cyfryngau rhydd ac annibynnol ein hunain."
Mae'r BBC yn dweud eu bod wedi derbyn ymateb sylweddol i Sgwrs Radio Cymru, a'u bod yn falch o dderbyn cyfraniadau gan wahanol sefydliadau - gan gynnwys y gymdeithas.
'Gwerthfawrogi cyfraniadau'
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae BBC Cymru Wales wedi cael ymateb sylweddol i Sgwrs Radio Cymru, a lansiwyd ym mis Ebrill gyda'r nod o helpu sicrhau y byddai Radio Cymru yn parhau'n wasanaeth llwyddiannus, uchelgeisiol a bywiog am flynyddoedd i ddod.
"Mae'r Sgwrs, sy'n cyd-fynd â'r prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru, wedi annog gwrandawyr a sefydliadau, fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i rannu eu barn ynglŷn â phob agwedd o'r orsaf ac mae BBC Cymru yn gwerthfawrogi cyfraniadau'r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi bod mor barod i wneud hynny."
Daeth Sgwrs Radio Cymru i ben yn ffurfiol fis diwethaf, ac mae disgwyl i reolwyr yr orsaf amlinellu'r strategaeth ar gyfer Radio Cymru yn ystod yr hydref.
Ar faes Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, dywedodd golygydd Radio Cymru, Betsan Powys: "Mae eisiau bod yn glir ynglŷn â'r penderfyniadau, pam bod ni wedi eu gneud nhw, a tua'r hydref... fe gewch chi gyfeiriad clir gen i o beth dwi wedi dysgu o'r sgwrs a ble dwi eisiau mynd."
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2013
- 22 Mai 2013