Gwobr i ferch wnaeth sefyll arholiad dau ddiwrnod ar ôl cael babi

  • Cyhoeddwyd
Zoe RobertsFfynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,
Mae Zoe yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd addysg

Mae mam o Gaernarfon wnaeth sefyll arholiad dau ddiwrnod ar ôl rhoi genedigaeth wedi derbyn gwobr am ragori yn ei hastudiaethau.

Roedd Zoe Roberts, 23, yn ôl yn y coleg yn sefyll arholiad diploma rhyw 48 awr wedi iddi ddyfod yn fam am y trydydd tro.

Dywedodd y ferch, wnaeth ragori wrth wneud diploma mewn gwyddorau cymdeithasol yng Ngholeg Menai, fod amseriad y geni "ddim yn ddelfrydol".

Bydd Zoe nawr yn mynd ymlaen i wneud cwrs gyda'r Brifysgol agored tra hefyd yn gweithio i Gyngor Gwynedd.

'Pwysigrwydd addysg'

Yn siarad am ei phrofiad ym mis Mawrth eleni, dywedodd Zoe: "Ro'n i'n benderfynol o sefyll yr arholiad gan fy mod i'n gwybod pa mor bwysig oedd o.

"Doedd amseru Harvey ddim yn ddelfrydol gan ei fod o bum wythnos yn gynnar, ond fe wnes i ei ddefnyddio fo, Tylor a Sophea [ei phlant eraill] fel ysbrydoliaeth gan fy mod i'n awyddus iddyn nhw gael eu magu yn deall pwysigrwydd addysg a sylwi fod pethau fel hyn yn werth gweithio amdanyn nhw."

Mae Zoe eisoes wedi llwyddo i gael swydd yn adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd fel gweithiwr cefnogol.

Bydd hi hefyd yn parhau gyda'i hastudiaethau wrth iddi wneud gradd mewn gwaith cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol