Hepititis C: Clinigau'n agor
- Cyhoeddwyd

Mae clinigau er mwyn darparu profion Hepititis C i ferched fu mewn cysylltiad gyda gweithiwr oedd wedi ei heintio wedi agor ddydd Gwener.
Mae dros 700 o ferched wedi cysylltu gyda swyddogion iechyd yn ne Cymru ar ôl iddynt gael gwybod bod cyn aelod o staff wedi ei heintio gyda'r firws Hepititis C.
Cafodd 5,000 o gyn cleifion wybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad gyda'r gweithiwr, fu'n gweithio mewn tri ysbyty Cymreig rhwng 1984 a 2003.
Dywedodd un ddynes ei fod yn "hunllef" aros am ganlyniadau'r prawf.
"Dwi'n teimlo'n ofnadwy fy mod i wedi fy rhoi yn y sefyllfa yma," meddai Elaine Luther o Aberbargod yng Nghaerffili.
"Ac mae aros pythefnos am y canlyniadau yn hunllef."
Mae clinigau arbennig wedi cael eu sefydlu er mwyn darparu profion i'r merched, a bydd y cyntaf o'r rhain yn agor ddydd Gwener.
Mesurau rhagofalus
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mae'r risg fod rhywun wedi dal yr haint yn isel, ac fel mesur rhagofalus mae'r clinigau wedi eu trefnu.
Cafodd pryderon eu codi wedi i'r bwrdd iechyd ddarganfod fod gweithiwr yn y maes obstetreg a gynecoleg, wnaeth ymddeol yn ôl yn 2003, wedi profi'n bositif am yr haint.
Afiechyd yw Hepititis C sy'n gallu arwain at lid ar yr iau. Os nad yw'n cael ei drin gall achosi afiechyd iau cronig, ac, mewn achosion prin, canser yr iau.
Roedd yr unigolyn oedd wedi ei heintio wedi gweithio'n bennaf yn Ysbyty'r Glowyr yng Nghaerffili, ond gweithiodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Dwyrain Morgannwg ger Pontypridd am gyfnod hefyd.
Mae swyddogion hefyd yn cysylltu gyda chleifion gafodd eu trin gan y gweithiwr mewn ysbytai eraill o amgylch y Deyrnas Unedig yn y 70au a'r 80au.
Dywedodd Ms Luther ei bod wedi cael triniaeth sawl blwyddyn yn ôl yn Ysbyty Chwarelwyr Ardal Caerffili, sydd bellach wedi cau.
"Rydw i'n flin. Rydych chi'n rhoi eich ffydd mewn pobl fel yma.
"Rydw i wedi bod i ysbytai eraill am driniaeth ac mae'n gwneud i fi feddwl beth arall all fod wedi digwydd.
"Rydw i'n priodi eleni ac mae hyn wedi rhoi cysgod dros y briodas."
'Risg isel'
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi trefnu cyfres o glinigau sy'n cael eu harwain gan nyrsys er mwyn rhoi profion i'r rheini sydd wedi cysylltu â nhw.
Dywedodd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd, Dr Gill Richardson: "Byddem yn annog pob menyw sy'n derbyn llythyr i gysylltu â'r llinell gymorth bwrpasol fel mae'n dweud yn y llythyr, er mwyn trefnu'r profion cyn gynted a bod modd.
"Rydym yn pwysleisio unwaith eto fod risg trosglwyddo yn isel ac mae profion yn cael eu darparu fel mesur rhagofalus."
Bydd cleifion yn derbyn y canlyniadau rhyw bythefnos wedi cymryd y prawf.
Gall pobl sydd heb dderbyn llythyr ond sydd â phryderon gysylltu gyda Galw Iechyd Cymru 0845 46 47.
Straeon perthnasol
- 11 Medi 2013
- 8 Mawrth 2013
- 5 Ebrill 2012