Cynnal angladd Cliff Morgan
- Cyhoeddwyd

Mae angladd y chwaraewr rygbi a'r darlledwr, Cliff Morgan wedi ei gynnal ar Ynys Wyth.
Dechreuodd y seremoni am 12.30pm yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Bembridge, y pentref lle'r oedd Mr Morgan wedi byw ers 9 mlynedd.
Cafodd ei arch ei orchuddio gyda baner Cymru, a'i gario i mewn i'r eglwys wrth i gôr Cymry Llundain ganu.
Roedd enwogion o fyd rygbi Cymru yn bresennol, yn cynnwys Gareth Edwards, Barry John a Gerald Davies.
Roedd rhai o'i gyfeillion o'r byd darlledu yn y seremoni hefyd, yn cynnwys y darlledwr Des Lynam.
Siaradodd mab Cliff Morgan, Nick, a'i wyr, Jack yn y seremoni, cyn i Max Boyce siarad â'r dorf.
Roedd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, a'r llywydd Dennis Gethin hefyd wedi teithio i Bembridge ar gyfer yr angladd.
Roedd yr eglwys yn llawn, a chafodd y seremoni ei chwarae ar uchel seinydd i'r rheiny oedd y tu allan.
Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r maswyr gorau cyn iddo gael gyrfa fel gohebydd, sylwebydd a pennaeth darllediadau allanol gyda'r BBC.
Bu farw Mr Morgan ar Awst 29, yn 83 oed.
Chwaraeodd 29 o weithiau dros Gymru a bu'n gapten ar y Llewod yn Ne Affrica yn 1955 -- roedd ei deulu yn gwisgo "ychydig o goch" yn ystod yr angladd er mwyn ei goffáu.
Ymunodd Cliff Morgan gyda BBC Cymru yn 1958 wedi iddo ymddeol o chwarae rygbi.
Bydd yn cael ei gofio am ei sylwebaeth ar y gêm Barbariaid yn erbyn Seland Newydd yn 1973 pan sgoriodd Gareth Edwards gais trawiadol.
Cafodd rhai o uchafbwyntiau darlledu Mr Morgan eu chwarae fel rhan o'r seremoni.
Yn 1975 cafodd ei benodi yn bennaeth darllediadau allanol, swydd yr oedd ynddo am 12 mlynedd. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar raglen Sport on Four ar BBC Radio 4
Straeon perthnasol
- 31 Awst 2013