Awyren yn llithro oddi ar llain lanio
- Cyhoeddwyd

Roedd rhaid i'r awyren lanio ym Maes Awyr Mona wedi'r gwrthdrawiad
Mae un o awyrennau'r Awyrlu wedi llithro oddi ar y llain lanio ym Maes Awyr Mona ar Ynys Môn.
Mae adroddiadau bod yr awyren wedi gwrthdaro gyda sawl aderyn, wrth hedfan uwchben y maes awyr fore Gwener.
Dywedodd yr RAF bod y ddau beilot wedi llwyddo i lanio yn ddiogel yn ôl eu hyfforddiant, ac nad oedd yr un wedi eu hanafu.
Roedd yr awyren wedi hedfan o'r Fali, ond mae'n parhau ym Mona ar hyn o bryd.
Nid yw'n glir faint o ddifrod sydd wedi ei achosi i'r awyren.