Artistiaid Cymraeg ar lwyfan newydd i Ŵyl No. 6
- Cyhoeddwyd

Mae gŵyl gerddorol yn dychwelyd i Bortmeirion gyda llwyfan newydd i anrhydeddu crëwr y pentref, Syr Clough Williams-Ellis.
Cynhaliwyd Gŵyl No. 6 yn y pentref Eidalaidd am y tro cyntaf yn 2012 ac mae'n dychwelyd eleni gyda llwyfannau o gerddoriaeth, comedi a llenyddiaeth.
Ymhlith y bandiau sydd yn ymddangos eleni bydd y Manic Street Preachers a Chic gyda Nile Rodgers.
Bydd Côr Meibion y Brythoniaid yn canu addasiad o un o ganeuon Chic, 'Good Times', fel rhan o'r ŵyl.
Blwyddyn diwethaf roedd eu perfformiad o gân gan New Order, 'Blue Monday', yn un o uchafbwyntiau'r digwyddiad.
'Dathlu diwylliant Cymru'
Eleni mae'r trefnwyr wedi creu llwyfan newydd, Llwyfan Clough, ar gyfer artistiaid Cymraeg a'u cydweithwyr rhyngwladol.
Bydd Geraint Jarman, Bryn Fôn a Cowbois Rhos Botwnnog ymysg y rhai fydd yn ymddangos.
Dywedodd Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr pentref Portmeirion: "Mae Gŵyl No. 6 yn ddathliad o'r celfyddydau creadigol mewn amgylchedd unigryw.
"Mae'n briodol bod yr ŵyl yn adlewyrchu a dathlu'r gorau o ddiwylliant cyfoes Cymru yn ei holl amrywiaeth.
"Roedd Clough Williams-Ellis yn falch o'i gysylltiad â beirdd a cherddorion ei wlad frodorol.
"Byddai wedi bod yn falch iawn o weld Festival No. 6 yn rhoi cymaint o bleser ac ysbrydoliaeth i gynifer o bobl."
Mae'r ŵyl yn dechrau ar ddydd Gwener 13 Medi ac yn gorffen ar ddydd Sul 15 Medi.
Straeon perthnasol
- 21 Hydref 2012
- 24 Ebrill 2012