Ysbyty heb ddŵr ddwywaith o fewn tridiau

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Coffa Victoria
Disgrifiad o’r llun,
Mae Severn Trent wedi cymryd camau i sicrhau na fydd digwyddiad o'r fath yn digwydd eto

Cafodd ysbyty ei adael heb ddŵr ddwywaith o fewn tri diwrnod yr wythnos ddiwethaf a bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ddarparu cyflenwad brys iddynt.

Fe wnaeth pibell dorri gan effeithio ar Ysbyty Coffa Victoria yn y Trallwng am ychydig oriau ddydd Sadwrn diwethaf - a digwyddodd yr un peth eto ar y dydd Llun.

Dywedodd y cwmni dŵr Severn Trent ei fod wedi gosod system yn ei lle fydd yn atal yr ysbyty rhag bod mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Mae gan yr ysbyty offer dialysis yr arennau newydd sydd angen 1,200 litr o ddŵr yr awr pan yn rhedeg ar eu llawn gapasiti.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod yr ysbyty wedi cal ei gadael heb ddŵr am "gwpwl o oriau" y ddau dro ac er ei fod yn anghyfleus, nad oedd wedi achosi trafferth difrifol.

Maent wedi cadarnhau fod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Severn Trent wedi llwyddo i sicrhau'r cyflenwad.

Mae Severn Trent wedi ymddiheuro am yr anghyfleusdod, gan ddweud fod gwaith atgyweirio wedi cael ei gynnal ers y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Fe wnaethom adfer y cyflenwad yn gyflym ac atgyweirio'r bibell oedd wedi ei difrodi wedi iddi fyrstio ddydd Sadwrn diwethaf, yn y Trallwng.

"Rydym erbyn hyn wedi gweithredu newidiadau i'r system gyflenwi dŵr er mwyn ceisio rhwystro digwyddiad tebyg rhag effeithio ar Ysbyty Coffa Victoria yn y dyfodol.

"Yn y tymor hir, er mwyn gwella dibynadwyedd y cyflenwad dŵr yr ardal ymhellach, rydym yn datblygu cynlluniau i osod pibellau dŵr newydd ac rydym yn disgwyl gweld y gwaith yn cael ei wneud cyn mis Ebrill nesaf.

"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustod gafodd ei achosi gan y digwyddiad yma ac rydym yn diolch i'n cwsmeriaid ym eu hamynedd."