Plaid Werdd 'yr unig ddewis amgen'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Blaid Werdd wedi dweud wrth eu cefnogwyr mai'r Gwyrddion yw'r unig ddewis amgen i'r pleidiau mawr "nad oes modd gwahaniaethu rhyngddynt".
Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol y blaid dywedodd Natalie Bennett ei bod yn rhagweld newid o fewn gwleidyddiaeth Prydain wrth i bleidleiswyr droi at bleidiau fel y Gwyrddion a UKIP am "atebion newydd".
Yn ei haraith, fe ymosododd Ms Bennett ar y glymblaid yn San Steffan am yr economi, ac ar Lafur am beidio darparu dewis arall.
"Mae un dewis gwahanol i'r tair plaid neo-ryddfrydol sydd i gyd yr un fath," meddai wrth y gynulleidfa.
"Y dewis yno yw'r Blaid Werdd."
Yn ystod y gynhadledd bydd y blaid yn rhoi manylion ynglŷn â'u cynlluniau am yr economi a sut maen nhw'n bwriadu rhoi terfyn ar dlodi bwyd.
Ymysg y pynciau eraill dan sylw fydd eu cynlluniau i wahardd hysbysebion sydd wedi eu hanelu at blant a'u gwrthwynebiad i breifateiddio o fewn y gwasanaeth iechyd a'r Post Brenhinol.