Galw am ailgyflwyno baeddod i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r naturiaethwr George Monbiot wedi galw am ailgyflwyno baeddod gwyllt i gefn gwlad Cymru, er mwyn rhoi gwell cyfle i fywyd gwyllt dyfu.
Mewn cyfweliad mae Mr Monbiot yn dweud y dylai nifer y defaid sy'n pori ar fryniau gael ei lleihau.
Dywedai y gallai hynny gael ei gyflawni drwy newidiadau i gymorthdaliadau Ewropeaidd.
Fe wnaeth Mr Monbiot gythruddo ffermwyr yn gynharach y flwyddyn hon drwy ddweud pethau tebyg mewn llyfr.
Gorgynrychioli
Yn y cyfweliad, sy'n ymddangos yn rhifyn mis Medi o gylchgrawn Countryfile y BBC, mae Mr Monbiot yn dweud y gallai baeddod gwyllt ddadwneud y "difrod" sydd wedi ei wneud gan niferoedd y defaid pori yn ardal ar fynyddoedd y Cambrian.
Mae hefyd yn honni bod safbwynt ffermwyr yn cael ei orgynrychioli.
"Rydym wedi dod i weld cefn gwlad a ffarmio fel termau cyfystyr. Mae pobl yn aml yn meddwl mai dim ond ar gyfer ffarmio mae cefn gwlad yn bodoli.
"Yng Nghymru, sydd lawer mwy gwledig na'r rhan fwyaf o Brydain, dim ond 5% o'r boblogaeth yw ffermwyr ond gyda nhw mae 95% o'r llais.
"Gallai defaid gael ei lleihau ar fryniau drwy newidiadau i'r system gymhorthdal.
"Fy obsesiwn i yw dirymu'r amod sy'n dod gyda chymhorthdal yr UE sy'n dweud bod rhaid i brysgwydd gael ei gadw dan reolaeth er mwyn rhoi'r cyfle i dir gael ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu bwyd - gyda pheirianwaith modern byddai hynny'n hawdd."
'Creu amodau ffafriol'
Mae Mr Monbiot yn mynd ymlaen i ddweud y byddai ailgyflwyno baeddod yn cael effaith gadarnhaol ar gefn gwlad mewn llefydd fel Cymru.
"Er mwyn delio gyda rhedyn gallai rhywun ddod a rhywogaethau allweddol fel baeddod i mewn, peiriannydd ecosystem sy'n cael effaith anghymesur o bwerus ar yr amgylchedd o'i gwmpas - maen nhw'n wych ar gyfer creu amodau ffafriol ar gyfer coed.
"Rhywogaeth arall sy'n gonglfaen yw'r afanc."
"Mae (problemau oherwydd baeddod) yn llai o broblem yn niffeithwch dinodwedd, di-goed y Cambrian, lle nad oes gerddi am filltiroedd maith.
"Ond wrth gwrs, nid pawb sy'n barod am ailgyflwyno'r rhywogaethau yma a bydden nhw'n cwyno. Rwy'n deall hynny."
'Mympwy rhamantus'
Yn gynharach y flwyddyn hon fe wnaeth Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gomisiynu adroddiad er mwyn taro nôl yn erbyn yr honiad fod defaid yn achosi difrod i gefn gwlad.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor ffermio bryniau UAC, Derek Morgan: "Mae'r mwyafrif helaeth o ffermwyr a chadwraethwyr ar yr un dudalen ar hyn, yn enwedig pan mae tan-bori'n cael ei gydnabod fel problem i lawer o rywogaethau.
"Rydym angen adeiladu ar y ddealltwriaeth a'r gydnabyddiaeth yna.
"Byddai creu gwyllt yn y Cambrian yr un fath a bugeilio Indiaid America i gronfeydd ar fympwy rhamantus, gan arwain at ddinistrio ecosystemau sy'n bodoli eisoes."
Straeon perthnasol
- 24 Gorffennaf 2013