Gwahardd pêl-droediwr am iaith 'hiliol'

  • Cyhoeddwyd
Chris Simm
Disgrifiad o’r llun,
Roedd un o'r achosion yn ymwneud â chyfnod pan oedd Simm yn chwarae i Fangor

Mae ymosodwr Clwb Pêl-droed Airbus UK Chris Simm wedi cael ei wahardd am chwe gêm am iddo wneud datganiadau "amhriodol o natur hiliol" ar Twitter.

Fe benderfynodd panel disgyblu Cymdeithas Pêl-droed Cymru y byddai Mr Simm hefyd yn derbyn dirwy o £400 am y sylwadau gafodd ei gwneud ar gyfrif Mr Simm ar 17 Mai a 11 Awst.

Os yw Mr Simm yn penderfynu apelio yn erbyn y penderfyniad, bydd rhaid iddo wneud o fewn y saith diwrnod nesaf.

Dywedodd Cymdeithas Pel-droed Cymru: "Wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus, oherwydd natur amhriodol a hiliol yr iaith gafodd ei ddefnyddio penderfynodd y panel y dylai Christopher Simm gael ei wahardd am gyfanswm o chwe gem ac y dylai dalu dirwy o £400."

'Llysgenhadon'

Mae gan y Gymdeithas Bêl-droed gyfarwyddiadau ynglŷn â defnydd chwaraewyr o wefannau cymdeithasol fel rhan o'u hymgyrch Off The Pitch.

Dywed y cyfarwyddiadau: "Mae côd Chwarae Teg y gymdeithas yn hybu unigolion i fod yn lysgenhadon i'r gêm yng Nghymru a dylen nhw felly ddefnyddio eu barn broffesiynol a synnwyr cyffredin wrth ysgrifennu unrhywbeth ar wefannau cymdeithasol.

"Ni ddylai unigolion beidio â chyfathrebu ar-lein - mae gan bawb yr hawl i fynegi eu hunain - ond mae popeth sy'n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu gan unigolyn yn adlewyrchu ar ei glwb."

Mewn datganiad, dywedodd Airbus UK: "Nid yw'r cyhuddiad hwn i'w wneud gyda'r clwb mewn unrhyw ffordd ac mae'n ymwneud a sgyrsiau preifat ar gyfrif Twitter personol Simm ac fe ddigwyddodd un ohonynt cyn iddo arwyddo i Airbus UK Brychdyn.

"Er ein bod yn derbyn fod gan Simm ddatganiadau gan yr unigolion oedd yn ymwneud â'r sgyrsiau i gefnogi ei achos, mae'r clwb hefyd yn cydnabod sut mae datganiadau amhriodol ar wefanau cymdeithasol yn cael eu gweld gan y cyhoedd ac eraill.

"Mae Airbus UK yn ategu ein cefnogaeth i ymgyrch Off The Pitch Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'i argymhellion ynglŷn â gwefannau cymdeithasol.

"Byddem yn trafod y mater yn fewnol cyn penderfynu os bydd camau pellach yn cael eu cymryd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol