Cyhuddo dyn wedi ymosodiad ar fosg

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn, 21, wedi ei gyhuddo o ymosod gyda chymhelliad hiliol ag o greu difrod yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â Mosg Tonna yn oriau man y bora ddydd Gwener.

Bydd Steven John Davies, sy'n byw yn y pentref, yn ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Abertawe ar ddydd Sadwrn Medi 14.

Cafodd Heddlu De Cymru ei galw am ryw 12:20am wedi iddynt dderbyn galwad ffôn.

Fe wnaethon nhw ganfod bod rhywun wedi ymosod ar y mosg gan falu nifer o ffenestri.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru yn fuan wedi'r digwyddiad: "Rydym wedi arestio dyn 21 oed ar amheuaeth o ddifrod troseddol ac ymosod yn dilyn digwyddiad ym Mosg Tonna yng Nghastell-nedd.

"Wedi i nifer o ffenestri'r adeilad gael eu torri, fe wnaeth dynes 44 oed a dyn 48 oed ddioddef ymosodiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol