Wrecsam 2-0 Luton Town
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 2-0 Luton
Pe bai Wrecsam wedi colli eto nos Wener fe fydden nhw mewn perygl o orffen y penwythnos yn ardal y gwymp ar waelod Uwchgynghrair Skrill.
Oedd, roedd hi'n gêm bwysig ac fe ddaeth gôl bwysig i'r tîm cartref wedi ugain munud o chwarae.
Neil Ashton oedd y crewr, ac Andy Bishop gafodd y dasg o roi'r bêl yn y rhwyd gyda'i droed dde - 1-0.
Roedd y gêm wedi bod yn gymharol ddiflas cyn hynny, ond yna daeth cyfleoedd i'r ddau dîm cyn yr egwyl gyda Joslain Mayebi'n cael ei orfodi i wneud dau neu dri arbediad da un pen, ond Jay Harris a David Artell yn dod yn agos y pen arall.
Roedd dechrau'r ail hanner yn ddistawach ond yna wedi 57 munud daeth yr ail gôl i Wrecsam.
Brett Ormerod groesodd y bêl ac fe sgoriodd Johnny Hunt gyda'i ben i ddyblu mantais y tîm cartref.
Fe wnaeth pethau droi'n fler i'r ymwelwyr cyn y diwedd. Fe welwyd sawl tacl drwg a sawl cerdyn melyn, ac yna wedi 79 munud fe welodd Alex Wall gerdyn coch am ymddygiad treisgar wrth iddo ymateb i dacl arno gan Neil Ashton.
Digon cyffyrddus oedd hi i Wrecsam ddal eu gafael ar y fantais i ennill triphwynt pwysig dros ben, hyd yn oed mor gynnar â hyn yn y tymor.