Y Gleision yn ennill ar y cae newydd
- Cyhoeddwyd

Fe chwaraewyd dwy gêm gan ranbarthau Cymru yng nghynghrair y Rabodirect Pro12 nos Wener.
Gleision 21-10 Connacht
Roedd y Gleision yn croesawu Connacht fel y tîm cyntaf i chwarae ar gae newydd artiffisial Parc yr Arfau, a'r Dreigiau yn teithio i Gaeredin.
Roedden nhw'n ddiolchgar am droed Rhys Patchell wrth iddyn nhw guro'r Gwyddelod o 21-10.
Connacht gafodd unig gais y gêm wrth i Matt Healy groesi yn yr hanner cyntaf.
Ond fe giciodd Patchell chwe chic gosb ac un gôl adlam i roi buddugoliaeth i'r Gleision ar eu tomen artiffisial eu hunain.
Caeredin 16-13 Dreigiau
Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Ulster wythnos yn ôl roedd disgwyliadau cefnogwyr y Dreigiau'n uchel wrth deithio i Gaeredin.
Ond mewn gêm agos doedd fawr o wahaniaeth rhwng y ddau dîm ar unrhyw adeg yn y gêm.
Richie Rees gafodd unig gais yr ymwelwyr, ac roedd anel Jason Tovey yn gywir gyda'r trosiad ac un gic gosb.
Fe groesodd Tim Visser i Gaeredin, ac fe sgoriodd Leonard wyth pwynt i roi'r tîm cartref 13-10 ar y blaen gyda munudau'n weddill.
Un o'r enwau newydd gyda'r Dreigiau y tymor hwn yw'r maswr Kris Burton ymunodd o Treviso yn yr haf, ac fe ddaeth oddi ar y fainc i gicio tri phwynt o gic gosb i unioni'r sgor.
Ond aeth un cyfle arall i Leonard o gic gosb, ac fe sgoriodd yn yr eiliadau olaf i dorri calonau'r Dreigiau.
Straeon perthnasol
- 15 Medi 2013