Camp lawn y tafarndai
- Cyhoeddwyd

Mae criw o ffrindiau wedi cwblhau taith tydyn nhw ddim yn debygol o'i anghofio, cyn belled a'u bod nhw wedi glynu at argymhellion ynglŷn ag unedau alcohol.
Wedi saith mlynedd o deithio ac yfed maen nhw bellach mewn sefyllfa i ddweud eu bod wedi ymweld â phob tŷ tafarn yng Nghymru,
Yn galw ei hunain yn Flaswyr Cwrw o'r Wlad Ddu, fe yfodd y ffrindiau mewn 3,905 o dafarndai mewn saith mlynedd, gan deithio dros 76,000 o filltiroedd.
Maen nhw wedi codi £11,000 i wahanol elusennau ar y ffordd, gyda'r arian o gymal olaf y daith yn cael ei roi i Ysbyty Plant Arch Noa.
Mae'r grŵp yn cynnwys Pete Hill o West Bromwich a'i ffrindiau John Drew a Malcolm Maynard.
Fe ddechreuon nhw deithio o amgylch tafarnau yn 1984 ac erbyn 2003 roedden nhw wedi bod mewn tafarn ymhob un o siroedd Cymru, Lloegr a'r Alban.
Syniad tad Mr Hill oedd cael llymaid ymhob un o dafarndai Cymru gan ei fod wedi cyfarfod nifer o filwyr Cymreig tra'n gweithio yn y fyddin.
Dywedodd ei fod yn gobeithio cyfarfod rhai ohonynt ar y daith.
Y rheswm pam mai Cymru ddewision nhw fel y wlad i yfed ymhob tafarn yw y byddai cyflawni'r un gamp yn Lloegr wedi bod yn amhosibl i bob pwrpas.
Yn ôl Mr Hill, fe fuodd ef a'i ffrindiau yn crwydro yn ystod pob penwythnos a gwyliau.
Dywedodd: "Mae 278 o dafarndai yng Nghaerdydd felly fe gafon ni hanner yn rhan fwyaf ohonyn nhw, gan gael peint yn y rhai roedden ni'n eu hoffi fwyaf."
Fe wnaeth y criw adael eu cerdyn galw ymhob tafarn ar y ffordd - gan gofio gofyn i aelod o staff am lofnod hefyd fel prawf o'u camp.