Ymosodiad ar fosg: Dyn o flaen llys
- Cyhoeddwyd

Mae Steven Davies wedi ei gyhuddo o dorri ffenestr yn y mosg, cyn ymosod ar bâr priod
Mae dyn 21 oed wedi bod o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o ymosod ar bâr priod ar ôl honiadau iddo fandaleiddio mosg.
Fe ymddangosodd Steven John Davies, o bentref Tonna, o flaen Llys yr Ynadon Abertawe fore dydd Sadwrn.
Mae wedi ei gyhuddo o ddifrod troseddol gyda chymhelliad hiliol, niwed corfforol gyda chymhelliad hiliol ac ymosod trwy guro.
Clywodd y llys honiadau ei fod wedi torri ffenestri ddwbl yng Nghanolfan Islamaidd St Anne's ym mhentre' Tonna, ger Castell-nedd, yn ystod oriau man bore Gwener.
Ni chyflwynwyd unrhyw ble a siaradodd y diffynnydd i gadarnhau ei enw, ei oed a'i gyfeiriad yn unig.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe a chafodd y diffynnydd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesa' yn y llys ar Fedi 24.
Straeon perthnasol
- 13 Medi 2013
- 13 Medi 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol